top of page
  • Writer's pictureLGBTQ ymru

Mae'n amser sioe i The Color Purple yng Nghaerdydd!

Updated: Mar 2, 2023



(Rhybuddion sbardun: Trais rhywiol, cam-drin domestig a hiliaeth.)



Mae The Color Purple ymlaen yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y mis yma. Fe wnaethon ni ddal i fyny ag aelod o'r cast Me'sha Bryan i ofyn iddi sut brofiad yw bod yn rhan o stori mor rhyfeddol.


Mae The Color Purple, sy'n seiliedig ar y nofel a enillodd Wobr Pulitzer gan Alice Walker, a ysgrifennwyd 40 mlynedd yn ôl bellach, yn ymwneud â phrofiad menywod duon yn America ar ddechrau'r 20fed ganrif . Mae rhai o'r themâu sydd ynddi - rhaniad hiliol, rhywiaeth a chamdriniaeth yn parhau i effeithio’r wlad hon. Mae’r trawma, y ​​boen, y gobaith, y gwytnwch a’r fuddugoliaeth dros adfyd yn creu stori bwerus sy’n parhau i atseinio ac y mae’n rhaid ei lleisio’n uchel.

Me'sha Bryan

Cafodd Me’sha Bryan, aelod o’r cast, ei chyfweld gan ddau o’n gohebwyr cymunedol Andrelina Ramdhun a Shana Parvin Begum, aelodau o Glitter Cymru a Glitter Cymru International (GSI). Wrth drafod hil, hanes du a normau cymdeithasol, cawsant eu hunain yn myfyrio pa mor berthnasol yw themâu The Colour Purple i gymdeithas heddiw.


Yn ogystal â bod yn actor, mae Me'sha hefyd yn hyfforddwraig llais, cantores a chyfansoddwraig caneuon. Mae ei rolau arweiniol eraill yn cynnwys ‘Shenzi’ yn nhaith Lion King UK a ‘Deloris Van Cartier’ yn Sister Act yn Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Iwerddon.


Bu Me'sha hefyd yn gweithio mewn lloches, gyda phobl a oedd wedi bod yn ddigartref ac yn ddioddefwyr cam-drin rhywiol a thrais domestig yn Llundain lle bu'n byw am gyfnod. Roedd yr empathi a ddatblygodd o'r gwaith hwn wedi helpu i lywio ei rôl fel 'Celie' yn The Color Purple.


Beth wnaeth eich denu at y cynhyrchiad hwn?

Mae The Color Purple yn stori eiconig. Mae dyfnder, ystod ac ehangder y stori yn enfawr, ac mae wedi bod ar fy radar am byth.


Mae'r sioe gerdd yn ystyrlon, mae'r gerddoriaeth wedi'i chyfansoddi mor dda. Does dim byd yn y sioe hon sy'n bodoli dim ond fel llenwad, mae'r gerddoriaeth yno yn symud y stori ymlaen. Mae’n bleser bod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn.


Sut deimlad yw chwarae Celie? Ydych chi wedi tynnu ar unrhyw brofiadau yn eich bywyd eich hun ar gyfer y rôl?

Dwi'n gymeriad galonogol felly pan mae Celie yn mynd trwy ei thaith ac yn mynd drwodd i'r ochr hapusach mae'n dda achos dyna fi beth bynnag.


Dydw i erioed wedi profi cam-drin fel yr hyn mae Celie wedi bod drwyddo ond bûm yn gweithio gyda phobl a oedd yn ddigartref ac yn ddioddefwyr cam-drin rhywiol, a thrwy sgwrsio â nhw y gallwn weld sut yr oedd eu profiadau wedi eu chwalu a’r trawma y maent wedi bod trwy. Rwyf wedi tynnu ar y profiadau hyn a gobeithio fy mod wedi gwneud cyfiawnder i’r rôl.


Beth fu'r rhan fwyaf heriol o chwarae Celie?

Natur gorfforol ohono. Rwyf wedi sylwi ar y tensiwn yn fy ysgwyddau a llais. Mae'n rhaid i mi feddwl am ystumiau iogig, er enghraifft pan fyddaf yn crio ar y llawr rwy'n meddwl am ystum y gath, sy'n rhoi cefnogaeth i mi ar gyfer fy diaffram, yn fy nghadw'n alinio, yn rhoi lle i anadlu, fel arall ni fyddaf yn gallu i ganu’n iawn ar gyfer fy adran nesaf.


Mae'r ddrama yn gynhyrchiad du yn bennaf. Beth ydych chi'n meddwl y bydd hyn yn ei gyfrannu i ddiwydiant theatr sy’n gwyn yn bennaf?

Mae amrywiaeth enfawr o bersonoliaethau du yn y ddrama hon. Mae gennym ni fenywod cryf, uchelgeisiol a llwyddiannus, perthynas o'r un rhyw, mae'r ymatebion rydyn ni wedi'u cael i'r cyfan wedi bod yn wych.


Sonioch fod ymateb y gynulleidfa i'r ddrama yn gadarnhaol ar y cyfan ond a ydych wedi sylwi ar amrywiad yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd yn ymateb i'r ddrama mewn gwahanol ddinasoedd?

Rwy'n dod o Wolverhampton, ger Birmingham. Mae Birmingham yn llawn dop, gyda chenhedlaeth Windrush a mewnlifiad o Jamaicans i Ganolbarth Lloegr felly roedd y gynulleidfa yn amrywiol, yn fywiog ac yn lleisiol iawn. Pan gyrhaeddais Plymouth, er enghraifft, dywedodd merch fy landlord, sydd â threftadaeth ddeuol, pa mor falch oedd hi bod y sioe yn dod yno a'i bod yn gallu gweld pobl a oedd yn edrych ychydig yn debycach iddi. Yr unig le dwi wedi clywed oedd braidd yn od oedd pan wnaethon ni Caroline Or Change yn Chichester. Ar ôl y sesiwn holi ac ateb, gofynnodd rhywun yn y gynulleidfa i’r cyfarwyddwr “a oedd hi’n anodd cyfarwyddo aelodau du’r cast?”. Roedd aelodau'r cast a minnau'n cael ein calw bob math o bethau dim ond wrth gerdded i'r theatr. Dyna'r lleoedd sydd angen gweld mwy o wynebau du a brown. Ond yn gyffredinol, does dim byd rhyfedd wedi digwydd lle roeddwn i'n teimlo'n anghyfforddus ond mae'n digwydd bod y trefi rydyn ni'n mynd iddyn nhw yn wyn iawn. Mae angen mwy o amrywiaeth mewn theatrau, rwy'n meddwl mai dyna'n union sy'n digwydd yma.



Beth ydych chi'n meddwl yw brif neges y cynhyrchiad, o ran hanes Du, llawenydd a hunaniaeth?

Rwy'n dathlu hanes Du drwy'r flwyddyn! Rydych chi'n cael mis a dyna pryd y dylai fod yn gyson. Rwyf wrth fy modd â'r adran Affricanaidd, rydych chi'n cael gweld yr holl wisgoedd hardd ac mae'n hatgoffa ni i fod yn falch ohonom ni ein hunain. Mae'r ffaith bod gennym ni bobl yn gwisgo ein plethi, ac rydyn ni'n eu cyflwyno i’r holl steiliau gwallt gwahanol, mae'n brydferth. Mae angen i bobl ddeall gwallt yn fwy a pheidio â'i weld yn wahanol a bod fel “gadewch i mi ei gyffwrdd”. Mae pethau'n gwella. Dewch i wylio'r sioe, a gweld rhai wynebau du a brown a pheidiwch â chael eich synnu. Rydyn ni'n dalentog ac yn gallu gwneud pethau hefyd! Rydyn ni'n dda am actio, canu a dawnsio! Rydyn ni'n bobl, rydyn ni'n edrych ychydig yn wahanol i chi.


Mae'r stori'n cyffwrdd â llawenydd cwiar hefyd. Sut brofiad oedd dangos i'ch cymeriadau yn darganfod eu hunain ac yn dod o hyd i lawenydd cwiar?

Rwy'n iawn cusanu menyw arall, mae'n actio. Roeddwn i'n ei chael hi'n rhyfeddach gorfod cusanu fy ffrind ar y llwyfan. Roedd gennym ni brosesau yn ymwneud ag agosatrwydd a chaniatâd i fynd drwyddo. Er enghraifft, pa rannau o'r corff y mae pobl yn gyfforddus â chael eu cyffwrdd.


Ar ôl popeth mae hi wedi bod trwyddo mae'n wych i Celie ddod o hyd i gariad go iawn, a does dim ots mai'r ffaith ei fod gyda menyw.


Sut ydych chi'n meddwl bod y stori'n berthnasol heddiw?

Buom yn siarad am hyn wrth weithio trwy'r sgript. Pe bai mwy o bobl yn helpu ac yn sefyll dros Celie ni fyddai yn y sefyllfa yr oedd ynddi. Mae fel ei bod yn y bloc caethwasiaeth ar y dechrau pan ddaw Mister i'w phrynu. Maen nhw'n ffeirio drosti fel eu bod nhw'n prynu buwch. Caniataodd pobl y dref i hyn ddigwydd, mae hi'n bedair ar ddeg. Nid yw Sofia yn ei gael ond ni all pobl fel Celie ddod o hyd i'r cryfder ynddi'i hun i ymladd. Syndrom Stockholm ydyw ac ofn os af y byddwch yn dod o hyd i mi. Dyna beth wnes i ddod o hyd gyda'r merched hynny yn y lloches lle roeddwn i'n gweithio. Mae'n cymryd tua saith ymgais llythrennol i adael sefyllfa ddifrïol. Yn yr amseroedd hynny mae angen cymuned gref o'ch cwmpas. Mae angen iddynt wybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain, bod ganddynt lais a bod y sefyllfa'n annerbyniol. Mae yna bobl sy'n gofalu ac mae yna fannau lle gallwch chi fynd i gael cymorth a chefnogaeth. Dyna lle mae angen i ni fod felly nid yw wedi'i normaleiddio. Ni ddylai fod wedi digwydd byth ond yn enwedig yn awr, yn yr oes sydd ohoni.


Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried dod i weld The Color Purple?

Allwch chi ddim ei golli! Os gwnewch chi, byddwch chi'n ofidus iawn gyda chi'ch hun. Mae pawb yn y sioe yn anhygoel a byddwch chi'n siarad amdani am wythnosau. Rydyn ni'n mynd i fynd ar daith, dod â hances, rydych chi'n mynd i grio!


Dewch o hyd i Me'sha! @meshbryan


 

The Color Purple yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 18- 22 Hydref.






0 comments
bottom of page