top of page
  • Daryl Leeworthy

Amrywiaeth ein hanes queer


Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ystyried canmlwyddiant rhoi’r bleidlais i fenywod ym 1918 a'r don fyd-eang o derfysgoedd hiliol ym 1919, yn ogystal â'r myfyrdodau mwy diweddar a ysgogwyd gan Black Lives Matter, bu llawer o drafod am amrywiaeth y gorffennol a'r presennol. Mae hyn wedi cyd-daro â dyfodiad hanes queer Cymru fel pwnc astudio a chyhoeddi ffurfiol: ymddangosodd Queer Wales gan Huw Osborne yn 2016, yn ogystal â Forbidden Lives gan Norena Shopland yn 2017, a fy llyfr i fy hunan, A Little Gay History of Wales, ym misoedd olaf 2019. Mae amgueddfeydd wedi gwneud gwaith treftadaeth gwerthfawr hefyd, yn ogystal â Pride Cymru, yn aml gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Serch hynny, mae'r dadeni hwn o ymchwil ac adferiad yn datgelu rhai o gyfyngiadau ffynonellau, cof a dealltwriaeth.



Abdulla Taslameden (Glamorgan Archives, Police Register)


Cyrhaeddodd Abdulla Taslameden Gaerdydd yn ystod haf 1918 ar fwrdd llong nwyddau yn llawn cyflenwadau o Fôr y Canoldir a'r Dwyrain Canol. Dwy ar hugain oed oedd Abdulla ac roedd yn y ddinas am gyfnod byr o amser segur cyn mynd ar y môr unwaith eto. Wrth iddo gerdded o amgylch Butetown a rhannau o ganol y ddinas yr Awst hwnnw, daeth Abdulla ar draws dyn lleol o dras Wyddelig a oedd yn ddwywaith ei oedran o'r enw George Halloran. Fe wnaethant sgwrsio a phenderfynu mynd i rywle i gael rhyw - yn ôl i dŷ George yn Adamsdown o bosibl.


Yn fuan wedi hynny, daeth heddlu'r ddinas i arestio Abdulla. Cafodd ei gyhuddo o 'gyflawni’r drosedd ffiaidd o sodomiaeth'. Yng ngorsaf yr heddlu, cofnodwyd ei ffotograff, ei olion bysedd ac amryw o’i fanylion personol ar gofrestrau swyddogol. Casglwyd pob nodwedd gorfforol a diwylliannol, o liw ei lygaid, i grefydd, i bresenoldeb unrhyw datŵs, i p'un a allai ddarllen neu ysgrifennu. Mae rhai o'r cofrestrau a'r ffotograffau hynny, ynghyd â dogfennau llys a charchardai, i gyd wedi goroesi. Maent yn darlunio mewn un amrantiad amrywiaeth hanes queer Cymru. Maent yn gofyn cwestiynau am berthnasoedd a'r croestoriadau rhwng rhyw cyfunrywiol, queerness, dosbarth, ethnigrwydd a hil. Maen nhw'n dangos bywydau sy’n debyg i’n rhai ni.


Roedd Abdulla yn Foslem, yn ôl pob tebyg o Yemen, yn ddyn croenliw, ac roedd yn gweithio fel dyn tân (neu daniwr) yn y llynges fasnachol a oedd yn gwasanaethu'r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd ei swydd yn un boeth a chwyslyd, ac roedd yn gorfforol anodd. Roedd yr ystafell injan ei hun yn ofod homoerotig yn llawn dynion hanner noeth. Er gwaethaf ei bwysigrwydd i'r llong - sef, yn llythrennol, rhawio glo i mewn i’r injans - roedd swydd y dyn tân yn destun gwahaniaethu hiliol sylweddol. Gwnaethpwyd y gwaith braf ar fwrdd llongau masnach, o'r swyddogion i'r stiwardiaid i'r barbwyr, gan Ewropeaid gwyn. Cyflogwyd George, er enghraifft, fel stiward llong. Roedd y chwant rhwng morwyr yn ddigon cyffredin nes iddo ddod yn ystrydeb queer, fel trin gwallt neu weithio yn y theatr. 


Nid oes diweddglo hapus i'r stori hon. Cafwyd Abdulla yn euog a'i ddedfrydu i ddeuddeg mis o lafur caled, ond nid oedd George yn destun unrhyw achos troseddol. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i bwy y credwyd oedd y 'dioddefwr', ond, heb os, lluniwyd yr achos gan far lliw cyffredinol y ddinas a rhagfarn hiliol eang ei swyddogion. Yn fuan ar ôl i Abdulla gael ei ryddhau o'r carchar, cafodd George ei hun ei arestio, ei gyhuddo a'i anfon i’r carchar am esgeuluso ei wraig, Annie, a'u plant. 



George Halloran (TNA, Merchant Navy Card)


Roedd Abdulla a George ymhlith nifer o ddynion a oedd yn ddigon anlwcus i gael eu dal ac yna eu cyhuddo o naill ai 'anwedduster difrifol' (a oedd yn haws i'r heddlu ei erlyn) neu'r cyhuddiad mwy difrifol o 'sodomiaeth'. Roeddent yn anlwcus, wrth gwrs, oherwydd bod llawer mwy o ryw cyfunrywiol yn digwydd, yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill, nag a fu erioed yn destun achosion llys a dedfrydau carchar. O safbwynt yr hanesydd, mae hynny'n rhwystredig oherwydd ei fod yn lleihau nifer y straeon unigol y gellir eu hadrodd. Ar ben hynny, mae cyfreithlondeb hanesyddol rhyw cyfunrywiol rhwng menywod yn golygu bod cofnodion troseddi yn ddefnyddiol, yn bennaf, ar gyfer adfer bywydau dynion queer


Mae hyn yn codi'r cwestiwn o sut i adfer amrywiaeth ein gorffennol queer. Po agosaf y bydd ein hymchwil yn dod â ni at ein hamseroedd ein hunain, y mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i adfer drwy gofiannau, gohebiaeth, hanes llafar a ffotograffau. Gyda'r ystod ehangach honno o ffynonellau, daw'r gwrthgyfarfyddiad angenrheidiol â bywydau a barhaodd i gael eu heffeithio gan hiliaeth, gwahaniaethu ar sail rhyw, ar sail dosbarth, a chan allfudo. Roedd pobl queer yn fwy tebygol o adael Cymru am leoedd y credir eu bod yn fwy agored a goddefgar - a oedd yn fwy parod i 'dderbyn', yn yr ystyr hen ffasiwn - Llundain, yn fwyaf amlwg.


Weithiau adroddwyd am leoliadau a oedd yn denu torf queer i'r Bwrdd Cysylltiadau Hiliol neu i'r wasg ar ddiwedd y 1960au a dechrau'r 1970au, am weithredu bar lliw. Yn yr un modd, roedd un o'r clybiau nos queer cyntaf yng Nghymru yn bendant yn rhai 'dynion yn unig', ac yn gymysgedd o ddiod a chasineb at fenywod yr oedd mudiad cydlynol menywod y cyfnod yn gwybod i’w osgoi ac yn sicrhau ei fod yn cael ei hysbysebu ymhell ac agos. Sut ydyn ni'n dod i delerau â'r gorffennol problemus hwnnw fel cymuned, hyd yn oed wrth i ni ddatblygu ymdeimlad cyfoethocach ohoni?


Byddwn yn dadlau ei bod yn bwysig nodi'r ddau. Roedd y clwb nos yn ddatganiad o bresenoldeb yn dilyn Deddf Troseddau Rhywiol 1967, sy'n haeddu cael ei gynnwys mewn unrhyw hanes o orffennol queer Caerdydd, ond roedd hefyd yn amgylchedd gwaharddol yn enwedig i fenywod. Dyma oedd hanes nodweddiadol lleoedd queer ledled y byd, ac i raddau mae'n parhau i fod yn wir, ac felly nid yw'n syndod dod o hyd i olion ohono yng Nghymru. Ond tystiolaeth yw'r allwedd, yn enwedig tystiolaeth sy'n mynd y tu hwnt i gof neu hanesyn unigol. Mae'r rheini gyda'i gilydd yn dod â phwnc a chyd-destun allan o anhrefn y gorffennol.



Louis Perlin (Glamorgan Archives, Police Register)


Cymerwch achos 'Cheers Drive', yr enw arfaethedig ar gyfer lôn fer yng nghanolfan fysiau newydd Caerdydd. Cynnig teilwng, y byddech efallai yn ei feddwl. Ac eto ewch yn ôl ganrif ac roedd tai ar y safle hwnnw. Yn un ohonynt, un prynhawn, roedd dyn Iddewig o’r enw Louis Perlin a Gwyddel o’r enw Daniel Sullivan yn bachu. Roeddent wedi cyfarfod ar Heol Santes Fair ac wedi mynd i ystafell Daniel. Cafodd Louis ei arestio’n ddiweddarach, ei gael yn ddieuog o anwedduster difrifol yn y llys, ond serch hynny cafodd orchymyn gan y barnwr i adael y wlad. Mewnfudwr digroeso. Roedd Louis wedi cyrraedd Prydain ychydig o flynyddoedd cyn hynny, ar ôl dianc rhag y pogromau niferus yn y Pale yn Lithwania lle cafodd ei eni. Gweithiodd yng Nghaerdydd fel teiliwr. Trodd ei alltudiaeth ei fywyd ben i waered: croesodd yr Iwerydd i geisio lloches cyn ymgartrefu yn Lerpwl yn y pen draw a mabwysiadu hunaniaeth wahanol.


Beth pe baem, felly, yn hytrach na chyd-fynd â’n hystrydebau 'Cymreig' ein hunain, yn meddwl yn fwy sobr am yr hanes sydd o'n cwmpas, neu am y dreftadaeth queer sydd mor aml wedi'i chuddio mewn lleoedd amlwg ac sy'n atgoffa rhywun yn gyson bod ein cymuned yn amrywiol, ei bod felly yn y gorffennol, ac y bydd bob amser yn amrywiol? Beth pe byddem yn gorfod wynebu’r rhai a arestiwyd? Beth pe baem yn symud o'r 'drosedd' i sefydlu rhywbeth am weddill eu hoes, hefyd? I wneud hynny, bydd yn rhaid i ni fynd â hanes Cymru allan i'r byd. I rai o'r unigolion yn y cofnodion, ni fydd hyn yn hawdd; mae trawsgrifio enwau ynddo'i hun yn gallu peri gwallau lu, ond i eraill bydd yn symlach - gan ddatgelu bywydau fel yr oeddent.


Fe ddiflannodd Abdulla Taslameden o'r cofnodion ar ôl iddo adael y carchar. I ble'r aeth, nid ydym yn gwybod. A gafodd ryw gyda dynion eraill, a oedd ei fywyd yn un hapus? Unwaith eto, dim ond pendroni ynghylch hynny y gallwn ni. Ar y llaw arall, rydym yn gwybod bod George Halloran wedi mynd i Awstralia, i America, i Belize, i Giwba, i Nicaragwa, ac i rannau pellaf Ymerodraeth Rwsia. Ac eto, gellir gofyn yr un cwestiynau am ei fywyd hefyd. Pa mor queer oedd e? Mae'n debyg na fyddwn fyth yn gwybod yr ateb. Yr hyn sy'n weddill yw elfennau Cymreig cofnodedig eu stori, sy'n pryfocio ac yn cyfareddu i’r un graddau. Hyn, yn y pen draw, yn absenoldeb bonheddwyr a boneddigesau, braint a statws, yw hanes go iawn Cymru Queer.


0 comments
bottom of page