top of page
  • Gareth Evans-Jones

Cardiff Foxes

Updated: Mar 2, 2023


Mae LGBTQymru yn falch iawn o weld mwy a mwy o gymdeithasau chwaraeon LGBTQ-benodol yn dod i'r amlwg. Buom yn sgwrsio gyda chlwb rhedeg newydd Caerdydd, y Cardiff Foxes, sy'n cyfarfod bob bore Sul. Dyma’r grŵp rhedeg LGBTQ+ cyntaf yng Nghaerdydd ac mae’n profi’n hynod boblogaidd.


1. Pryd ddechreuodd y clwb?


Dechreuwyd y clwb yn haf 2021 felly rydym ychydig dros flwydd oed.


2. Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu'r clwb?


Sefydlwyd y clwb am gwpwl o resymau. Roedd yn 2021 pan oedd y cyfnod clo yn dal i fod yn broblem wirioneddol, a chymdeithasu yn yr awyr agored ac i ffwrdd o leoliadau adloniant nodweddiadol oedd y norm, a'r gofyniad! Ond y tu hwnt i hyn, roedd hynny oherwydd bod angen ac yn wir eisiau am ofod diogel i bobl queer redeg gyda'i gilydd yng Nghaerdydd. Yn ogystal â hyn, roedd hefyd angen mwy o gyfleoedd i bobl LGBTQ+ gymdeithasu mewn amgylchedd nad yw'n ymwneud â bywyd nos yn unig.


3. Pam fod y clwb yn bwysig?


Mae'n bwysig i bobl queer gael gofod lle gall unrhyw un o bob oed a chefndir ddod at ei gilydd a chwrdd ag eraill, a chael hwyl gyda'i gilydd yn yr awyr agored, mewn lleoliad sy'n hamddenol ac nad yw'n golygu gorfod talu ffi. Y tu hwnt i hyn mae hefyd yn bwysig cael mwy o leoedd a chynrychiolaeth mewn athletau a chwaraeon yng Nghymru ar gyfer pobl LGBTQ+.



4. Faint o aelodau sydd gennych chi?


Rhwng 30 a 40.


5. Pryd ydych chi'n cyfarfod ar gyfer eich sesiynau?


Rydym yn cwrdd pob bore Sul y tu allan i Pettigrew Tearooms ar bwys Castell Caerdydd am 10:15, ac yn rhedeg am 10:30. Rydyn ni'n rhedeg llwybr hamddenol 5km drwy'r parc, ac wedyn rydyn ni'n mynd draw i'r Queer Emporium am goffi a byrbryd.


6. Ydych chi'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol?


Ydyn! A nawr ein bod ni wedi sefydlu ein hunain yn iawn fe fydd mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol hefyd. Rydyn ni'n ceisio cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol gwahanol fel bod aelodau'n gallu dod i adnabod ei gilydd. Gallai’r rhain bod yn nosweithiau allan, heicio, picnics, digwyddiadau Pride ac ati, ond rydyn ni'n ceisio cynnig rhywbeth i bawb. Credwn ei bod yn bwysig dod o hyd i amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'n haelodau fwynhau cymdeithasu ac i gwrdd â phobl queer eraill.


7. Ydych chi'n meddwl y gallai clwb fel eich un chi fod wedi bodoli yng Nghaerdydd 10 mlynedd yn ôl?


Mae'n anodd dweud i fod yn onest. Rydym yn credu bod angen rhywbeth fel hyn yng Nghaerdydd ers cryn dipyn bellach, ac mae wedi bod yn wych gweld yr holl gefnogaeth i ni dros y flwyddyn ddiwethaf.



8. Beth yw eich dyheadau ar gyfer dyfodol y clwb?


Byddem wrth ein bodd yn parhau i gynnig yr hyn yr ydym yn ei wneud i bobl queer yn yr ardal, ac i ddod yn fwy ac yn well! Wrth i ni dyfu byddem wrth ein bodd yn gallu gwneud rhai rhediadau noddedig i godi arian ar gyfer elusennau LGBTQ+ ac i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi'r gymuned yma a thu hwnt.

9. Sut gall pobl ymuno?


Cysylltwch drwy ein cyfrifon Twitter ac Instagram @CardiffFoxes neu drwy e-bost: Cardifffoxes@Gmail.com


0 comments
bottom of page