top of page
  • Writer's pictureLGBTQYMRU

Y Cenhedloedd Unedig yn canmol Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru




Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru wedi cael ei ganmol fel enghraifft o arfer dda o ran llunio polisïau hawliau dynol gan adroddiad y Cenhedloedd Unedig.

Dau o brif amcanion y Cynllun Gweithredu yw cryfhau dealltwriaeth o hawliau dynol pobl LHDTC+ a gwella eu dealltwriaeth o sut i fynnu eu hawliau dynol.

Yn dilyn ymweliad â’r DU, fe wnaeth Arbenigwr Annibynnol y Cenhedloedd Unedig ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd ganmol gwaith Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hawliau dynol pobl LHDTC+.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, a fydd yn mynd i Pride Cymru y penwythnos hwn: “Rydyn ni eisiau gweld Cymru lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain, heb ofn na gwahaniaethu. Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi cynwysoldeb – yn ein bywyd diwylliannol, yn ein cymunedau ac ar hyd a lled ein gwlad.

Ychwanegodd: “Mae’n fraint bod y Cenhedloedd Unedig wedi canmol ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’n huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Er hynny, rwy’n ymwybodol iawn bod gwaith ar ôl i’w wneud a bod gan ddigwyddiadau Balchder ran bwysig i’w chwarae ar draws ein cenedl o hyd.

“Yn anffodus, mae pobl LHDTC+ yn parhau i wynebu ymosodiadau yn fyd-eang, yn enwedig menywod a merched trawsryweddol ac mae ein hawliau mewn perygl o gael eu tynnu’n ôl. Dyna pam, yma yng Nghymru, rydyn ni’n sefyll yn falch gyda’n cymunedau LHDTC+ ac oddi mewn iddynt.”

Gan barhau â’r ymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, un o nodau allweddol arall y Cynllun yw gwella cynrychiolaeth, cynhwysiant a chyfranogiad pobl LHDTC+ mewn chwaraeon.

Mae’r Cynllun yn nodi sut y dylai chwaraeon fod i bawb, lle y gall pawb gymryd rhan a lle y caiff pawb eu trin â charedigrwydd, urddas a pharch.

Ei nod yw chwilio am gyfleoedd i gynnal deialog, dod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo dealltwriaeth yn hytrach na gwrthdaro, a dangos parch yn hytrach nag ystyried allgáu.

Tîm pêl-droed LHDTC+ cyntaf Cymru oedd tîm pêl-droed Dreigiau Caerdydd. Lansiwyd y tîm yn 2008 ac mae ganddo chwaraewyr yn amrywio o ran oedran, o rai sy’n 18 oed i rai sydd yn eu 50au. Ers hynny, mae timau eraill wedi’u sefydlu yng Nghasnewydd, Abertawe a’r Gogledd.

Mae tîm Dreigiau Caerdydd wedi parhau i dyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae tua 40 i 50 o bobl yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi yn rheolaidd.

Dywedodd Charlotte Galloway, sy’n Gadeirydd y clwb, eu bod wedi ceisio bod mor gynhwysol â phosibl: “Y prif beth rydyn ni’n ei wneud, y peth mwyaf pwerus o bosib, yw casglu mewn cylch yn ein timau a chyflwyno ein hunain gan ddweud ein henw a’n rhagenwau ar ddechrau sesiynau hyfforddi.

“Mae’n fodd o fynegi ein rhywedd heb orfod cael sgwrs letchwith amdano, sy’n ei normaleiddio ac yn ei wneud yn weladwy. Ac rwy’n credu y gall fod mor hawdd â hynny.”

Ychwanegodd Charlotte, a sefydlodd Rhwydwaith Chwaraeon LHDTC+ Cymru yn gynharach eleni hefyd, fod eu presenoldeb yn Pride Cymru yn bwysig i godi ymwybyddiaeth o’u bodolaeth: “Mae Pride yn ddefnyddiol iawn i ni allu bod yno fel clwb a gallu cysylltu â’r gymuned ehangach, i ddangos bod clybiau pêl-droed LHDTC+ yn bodoli. Yn wir, mae angen i ni fodoli.

“Ac os ydych chi’n cwiar neu’n cwestiynu, a’ch bod yn teimlo fel nad ydych chi eisiau chwarae mewn amgylchedd heteronormadol, macho gyda syniadau pendant am wrywdod, does dim rhaid iddo fod felly, mae lleoedd ar eich cyfer chi. Felly, mae’n werthfawr iawn i ni gael y llwyfan hwnnw i allu cysylltu â phobl nad ydym fel arfer yn cael cyfle i gysylltu â nhw.”

Er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Pride Cymru, un o nodau eraill y Cynllun yw cefnogi sefydliadau Balchder ledled Cymru, gyda’r Gronfa Balchder Llawr Gwlad. Diben y Gronfa yw cynnig cymorth ar gyfer datblygu a threfnu digwyddiadau Balchder llai i sicrhau eu bod yn ffynnu.

Dywedodd Seren Edwards, sy’n Gadeirydd Pride Powys, fod digwyddiadau o’r fath ynhanfodol i greu ymdeimlad o gynhwysiant a chymuned.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gallu dod at ei gilydd ac yn gallu cwrdd, boed hynny mewn digwyddiad Pride neu yn rhyw fan penodol arall,” meddai.

“Rwy’n gwybod bod rhai pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wir yn teimlo’n ynysig. Rwy’n gwybod bod eraill yn poeni am ragfarn a chasineb yn yr hinsawdd sydd ohoni, felly maen nhw’n rhyw fath o guddio hefyd. Mae’n bwysig bod pobl yn gallu mynd i rywle lle gallant fod yn nhw eu hunain.”

Ychwanegodd am chwaraeon: “Dylai pawb, waeth pwy ydyn nhw, gael yr hawliau a’r gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n syml, un o’r pethau gyda chwaraeon ac ymarfer corff yw eu bod hefyd yn eithriadol o dda ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol pobl.”

Yr wythnos hon cyhoeddwyd adnodd olrhain cynnydd y Cynllun Gweithredu LHDTC+, fel y gall unrhyw un yng Nghymru fonitro diweddariadau a chynnydd yn erbyn pob cam gweithredu a gweithgaredd yn y Cynllun. Bydd hefyd yn ganolbwynt ar gyfer adnoddau a gwasanaethau cymorth newydd sydd ar gael yng Nghymru.


0 comments

Comments


bottom of page