top of page
  • Sandy Sullivan

Pwysigrwydd Cynghreiriaid




“Yn bryderus”

“Yn ofni am ei dyfodol”

“Ddim yn gwybod pa ffordd i droi”

Mae pobl wedi gofyn imi sut roeddwn i'n teimlo pan rannodd Em gyda mi y ffaith ei bod hi'n drawsryweddol ychydig dros flwyddyn yn ôl. Roedden ni’n eistedd yn ein hystafell fyw ac, heb allu edrych arna i, dywedodd fod angen iddi ddweud rhywbeth wrthyf fi. Fel ei Mam, roeddwn i'n gwybod nad oedd pethau wedi bod yn iawn ers ychydig flynyddoedd, ond roeddwn yn meddwl mai dim ond y ffaith ei bod hi yn ei harddegau yn 2020 oedd y rheswm. Roeddwn i wedi ei helpu a'i chefnogi gymaint ag yr oeddwn i'n gallu drwy gwpl o gyfnodau o iechyd meddwl gwael ac fe sylweddolais, i Em, ei bod yn ymddangos mai beicio oedd y peth a oedd wedi ei helpu hi drwy bethau bob tro.

“Mam, rwy’n drawsryweddol”. Dim ond 3 gair syml.

Rwy'n sylweddoli nawr faint o ddewrder a gymerodd iddi hi ddatgelu ei gwir hunan. Byddai'r ffordd y gwnes i ymateb yn cael effaith yr un mor enfawr.

Fe gofiais am sgwrs a gawsom ni pan oedd hi’n 14 oed ar ôl sylwi ei bod yn dilyn sawl neges LGBT+ ar y cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn i wedi sôn, pe bawn i'n gallu gweld beth oedd ei diddordebau hi, yna gallai pobl eraill hefyd. Dywedodd Em ei bod hi’n cwestiynu ei rhywioldeb ac roedd fy ymateb i, mewn sawl ffordd, yn syml iawn ond yn bwysig. Gwnes i ei chofleidio a dweud, “Rwy'n dy garu di, waeth beth sy’n digwydd. Rwyt ti’n gwybod y gelli di siarad â mi pan fydd angen i ti wneud hynny ”. Roedd y neges honno'n gyson gan ei theulu agos uniongyrchol. Mae'n siŵr bod fy ymdrechion i ymddangos yn gefnogol dros y blynyddoedd nesaf hynny wedi codi cywilydd arni. Byddwn yn aml yn cwestiynu a oedd hi'n ffansio neu'n hoffi merch neu fachgen penodol fel ffordd o geisio ei hannog i fod yn agored ac atgyfnerthu'r neges nad oedd ots gen i, ac nad oedd ei rhywioldeb yn ddim o'm busnes i mewn gwirionedd, ac mi wnes i ei charu hi, waeth beth fyddai’n digwydd.



Yn ôl at y 3 gair hynny. Rwy'n cofio'r ddwy ohonom ni’n crio, yn cofleidio ac yna’n siarad. Fi oedd yn siarad yn bennaf gan fod gen i gymaint o gwestiynau. Os edrychaf yn ôl, nid rhai o'r cwestiynau hynny oedd y rhai gorau i'w gofyn, ond yr hyn a sylweddolais yw bod angen i mi addysgu fy hun ynghylch yr hyn y mae bod yn drawsryweddol yn ei olygu a hynny’n gyflym. Ar y pwynt hwnnw, nid oeddwn i erioed wedi cwrdd â dyn, menyw na pherson trawsryweddol. Rwy’n cofio fy ngwybodaeth gynnar am y gymuned LGBTQIA+ yn cael ei chysylltu â chyhoeddiad iechyd cyhoeddus y Llywodraeth a oedd yn cynnwys cerrig beddi, y “negeseuon” o amgylch y firws AIDS. Yn ddiweddarach, roeddwn yn ffodus bod fy ngwaith wedi darparu cysylltiadau ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Roeddwn i'n teimlo bod gen i’r wybodaeth ddiweddaraf am LGBT+ er nad oedd gen i unrhyw gysylltiadau uniongyrchol â'r gymuned bryd hynny.

Argymhellodd Em y dylwn i wylio'r rhaglen ddogfen “Disclosure”, ac fe wnes i hynny. Gwnaeth hynny i mi sylweddoli sut y dylanwadwyd ar fy nghanfyddiadau, fy marn a fy nhuedd anymwybodol i yn ystod y blynyddoedd cyn hynny.

Dros yr wythnosau nesaf gydag Em yn paratoi i ddychwelyd i Fanceinion (dyna lle y mae carfan feicio Prydain Fawr wedi'i lleoli), roeddem wedi cael sgwrs am ei dyfodol a'r hyn yr oedd am ei wneud. Fel Mam, fy ngreddf oedd y dylai ddiflannu, tynnu ei hun o'r byd beicio a chanolbwyntio ar newid heb y pwysau na'r farn y gwyddwn a fyddai’n bresennol mewn chwaraeon elitaidd. Yn syml, roeddwn i eisiau iddi gael ei gwarchod, i fod yn ddiogel ag i beidio â dod yn darged i’r casineb a'r rhethreg roeddwn i wedi'i weld yn y cyfryngau.

Ei hymateb?

“Mam, dwi’n gwybod ac yn deall beth rydych chi’n ei ddweud a pham rydych chi'n ei ddweud, ond dwi’n teimlo bod gen i gyfrifoldeb yn y sefyllfa rydw i ynddi i helpu i newid pethau. Dwi’n gwybod na fydd hynny'n hawdd a dwi’n gwybod beth mae hynny'n ei olygu. Ond dwi'n credu, os na wna i hynny, yna bydd yn rhywbeth y bydda i’n edrych yn ôl arno ymhen 10/15 mlynedd ac yn difaru. Dwi eisoes wedi darganfod bod yna ymchwil wedi’i wneud am athletwyr trawsryweddol a sut mae perfformiad athletaidd yn cael ei effeithio drwy newid rhyw, felly dwi eisiau bod yn rhan o hynny hefyd oherwydd mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn”.

Sut allwn i wneud unrhyw beth ond ei chefnogi? I gael y mewnwelediad hwnnw, i ddangos yr aeddfedrwydd hwnnw ac i wneud y penderfyniad hwnnw a hithau ddim ond yn 19 oed? Fe wnes i gydnabod, wrth iddi wneud y penderfyniad hwnnw, fod hyn yn llawer mwy na ni. Felly, gwnes yr ymrwymiad i wneud yr hyn a allwn i fel ei Mam i helpu i sicrhau y byddai ei thaith mor hawdd ag y gallai fod.

Roedd Em eisoes wedi darganfod nad oedd Polisi Trawsryweddol ar waith o fewn British Cycling (fe wnaethant lansio polisi ychydig o ddyddiau cyn i Em ddod allan iddynt), ond roedd polisïau ar waith mewn chwaraeon eraill a chan gorff Llywodraethu’r Byd Beicio, yr UCI. Fel rhan o'i rhwydwaith cymorth ei hun, roedd hi eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'r elusen Mermaids, felly y peth cyntaf a wnes i oedd trefnu cyfarfod â'u Pennaeth Cyfreithiol nhw i egluro sefyllfa gyfreithiol Em fel menyw drawsryweddol. Yna, cysylltais â Chomision Athletwyr Prydain (rhwydwaith cymorth ar gyfer athletwyr Prydain Fawr a ariennir) ac UK Sport, gan estyn allan i sicrhau y byddai'r gefnogaeth angenrheidiol ar gael ar gyfer trafodaethau Em yn y dyfodol gyda British Cycling ynghylch y ffaith ei bod yn drawsryweddol.

Ar yr un pryd, ceisiais gefnogaeth ac arweiniad gan rwydweithiau chwaraeon LGBT+, a'n pwynt cyswllt cyntaf oedd Lou Englefied o Pride Sports UK. Yna, hwylusodd Lou gysylltiadau â LGBT Sport Cymru a’r rhwydwaith Cyfryngau Chwaraeon LGBT, oherwydd roeddem yn sylweddoli, unwaith y byddai'r si ar led bod Em yn drawsryweddol, y byddai’r cyfryngau yn mynd yn wallgof. Roedd hyn yn seiliedig ar ein canfyddiadau cychwynnol ein hunain, ond atgyfnerthwyd hynny ar ôl i ni gwrdd (mewn modd rhithwir) â dwy fenyw draws proffil uchel a oedd wedi rhannu eu straeon am sut roedd y wasg wedi datgelu eu bod yn draws ac wedi eu poenydio. Daeth rheoli'r naratif yn bwysig iawn ac aelodau o'r gymuned LGBT+ eu hunain - Jon Holmes (Sport Media LGBT), Beth Fisher (ITV Cymru) a Michelle Daltry (LGBT Sport Cymru) - a ddaliodd ein dwylo yn y dyddiau cynnar hynny ac sy'n parhau i fod yn gynghreiriaid inni ac yn rhan o'n rhwydwaith cymorth. Mewn gwirionedd, byddwn yn dweud ein bod wedi cael ein croesawu’n fawr gan y gymuned LGBT+. Mae wedi bod yn brofiad mor groesawgar a chefnogol, sydd ei angen yn fawr gan fod Em wedi dod yn darged gweithredwyr gwrth-draws. Ond stori am ddiwrnod arall yw honno.

Rydw i mewn lle gwahanol nawr. Mae penderfyniad Em yn fy ysbrydoli i ddal ati i wthio a pharhau i gefnogi. Gwn fy mod wedi dod yn actifydd ac rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd â gwleidyddion wrth imi geisio sicrhau bod ei llwybr yn dod yn llai heriol. Nid wyf yn ofni estyn allan a brwydro am newid lle y mae ei angen: wedi'r cyfan, rydym ni’n siarad am fy mhlentyn i, fy merch i. A dyna beth y byddwn i'n annog rhieni eraill i'w wneud. Peidiwch â bod ofn estyn allan i bobl eraill. Er gwaethaf yr hyn rydych chi'n ei feddwl neu beth allai'r ymateb fod, mae cefnogaeth anhygoel a chroesawgar ar gael. Dros y ffôn, ar-lein, un i un mewn cymunedau. Mae angen ichi weithio allan beth sy'n gweithio orau i chi.


I gael cefnogaeth bellach, mae'r sefydliadau a'r unigolion canlynol ar gael:










Rhwydweithiau Chwaraeon LGBT+ Eraill











0 comments
bottom of page