Ar ôl tair blynedd wedi’u gohirio oherwydd pandemig Covid-19, cynhaliwyd digwyddiad Pride Cymru y bu disgwyl mawr amdano yng Nghaerdydd yn ystod Gŵyl y Banc Awst. Denodd Pride eleni filoedd o fynychwyr a gwylwyr ynghyd, daeth â chymeriad lliwgar Caerdydd i’r blaen ac roedd yn ddathliad cynnes o gynwysoldeb, amrywiaeth, a chydraddoldeb.
Fore Sadwrn, aeth yr orymdaith fwyaf yn hanes Pride Cymru ymlaen i gyfeiliant lloniannau, clapio, a chwythu chwibanau. Roedd hon yn olygfa atgofus, gyda phobl o bob cefndir yn cyd-deithio gyda balchder yn frith ym mhob cam, pob llon, pob cân, pob baner wedi'i dal yn dynn, ym mhopeth. O ddathlu bywyd cwiar yn y celfyddydau, chwaraeon, ac o sefydliadau diwylliannol, fel yr Urdd, i'r ymgyrchoedd cenedlaethol, megis dros hawliau traws, amlygwyd amrywiol faterion allweddol i'r gymuned LHDTC+ yng Nghymru. Yr hyn oedd mor wylaidd oedd gweld ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn gorymdeithio ar flaen yr orymdaith, mewn gweithred o undod.
Fodd bynnag, wrth i’r orymdaith symud i Heol y Santes Fair, fe’i cyfarfuwyd â grŵp bach o brotestwyr a geisiodd lesteirio’r rhai oedd yn gorymdeithio. Daliodd hyn y dathliadau yn ôl tua ugain munud wrth i'r heddlu orfod symud y protestwyr, ond ni chafodd pethau eu llethu. Yn wir, roedd awyrgylch y golofn o bobl oedd yn gorymdeithio’n falch, yn ogystal â’r cannoedd ar gannoedd o wylwyr yn bloeddio’n ddedwydd, yn drydanol, ac ymchwydd amryliw yng ngham pawb. Cymaint felly, pan gyrhaeddon nhw Barc Cathay, i faes Pride, roedd y cyffro yn gyforiog.
Ac yno, ar dir Parc Cathays, y cynhaliwyd dathliadau pellach. O ymweld â'r gwahanol stondinau, i fwynhau diod gyda ffrindiau, teulu, partneriaid, cyd-weithwyr, i ganu i'r breninesau llusgo a pherfformwyr ar y llwyfan, roedd y tiroedd ar dân. O ran y perfformiadau, mae yna gymaint oedd yn sefyll allan, gan gynnwys Mel C, Welsh of the West End, a Boney M, a phob un yn cyfrannu’n sylweddol at yr awyrgylch, a oedd yn un o gariad, cymuned, a chynwysoldeb.
Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn, cynhaliwyd rhagor o ddigwyddiadau 'ymylol' ar hyd a lled y ddinas a oedd yn sicrhau dathliad cyson a barhaodd hyd at y nos Lun.
Roedd Pride Cymru eleni yn aruthrol. Daeth miloedd ynghyd ac roedd yn ddigwyddiad balch a ddangosodd fod pobl LHDTC+ yng Nghymru yn bodoli, y dylai pobl LHDTC+ fod yn rhydd i fynegi eu hunain, a bod pobl LHDTC+ yn haeddu teimlo’n rhan o gymdeithas heb ofni ymosodiad, rhagfarn na beirniadaeth, neu, yn wir, ymdeimlad o gywilydd.
Heb os, dychwelodd Pride Cymru gyda chlec, ac mae wedi cymryd cam mawr i bennod dyfodol ei stori. Mae’r cyfri wedi dechrau ar gyfer Pride Cymru 2023 eisoes, a fydd, mae’n deg dweud, yn ddathliad pwysig arall o fywyd a bodolaeth LHDTC+ yn y Gymru fodern.
تعليقات