top of page
  • Writer's pictureLGBTQYMRU

Pencampwr Cymunedol - Sheldon Mills

Updated: Mar 2, 2023


Ganwyd yng Nghaerdydd ac yn byw nawr yn Llundain, mae Sheldon Mills yn hyrwyddwr cydraddoldeb LHDTC+. Mae wedi bod ar fwrdd Stonewall am y 9 mlynedd diwethaf gan gynnwys yn fwyaf diweddar fel Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr. Mae hefyd wedi siarad yn angerddol am ei brofiad o dyfu i fyny yn ddu ac yn Gymro. Mae'n rhannu rhai o'i feddyliau a'i obeithion i’r dyfodol gyda ni.


C1: Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi, eich cefndir, ble rydych chi wedi’ch lleoli nawr, y gwaith/gwirfoddoli rydych chi'n ei wneud?

Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghaerau yng Nghaerdydd neu Drelai fel yr oeddwn yn arfer ei alw pan oeddwn yn ifanc. Mae Cymru gartref. Mae fy rhieni yn Gymry a Jamaican a ges i fy magu gan fy nain, Kathleen a fy nhaid Arthur. Fe wnaethon nhw roi cartref a magwraeth hyfryd i mi. Mae fy mam, Karen, yn dal i fyw yn Nhrelái ac mae fy holl frodyr a chwiorydd ar ochr fy mam yn byw yng Nghaerdydd, y Barri a Senghenydd. Dim ond fi a adawodd i fynd i Lundain yn 18 oed. Mae gennym teulu eithaf queer. Rwy'n hoyw cisendered, mae fy mrawd yn bi ac mae fy mrawd arall yn draws. Mae brawd hetero rhywle yn y canol hefyd. Rydyn ni'n ymladd - fel pob brawd neu chwaer - ond nid am bwy ydyn ni, rydyn ni bob amser yn gariadus ac yn dynn ar hynny.

Rwy'n gweithio yn Llundain fel rheolydd ac wedi hyfforddi fel cyfreithiwr. Mae mam yn dweud fy mod i'n workaholic ond roedd gen i ganser rai blynyddoedd yn ôl ac fe ddysgodd fi i wrando mwy ar fy nghorff a lefelau egni felly mae gen i well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith nag o'r blaen. Wedi dweud hynny, fel person, rydw i'n dueddol o fod yn egnïol ac yn brysur.

Rwyf wedi bod ar fwrdd Stonewall ers nifer o flynyddoedd bellach (9) ac ar hyn o bryd fi yw Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr. Byddaf yn camu i lawr eleni ond rwyf wedi cael y profiad mwyaf anhygoel yn ystod y cyfnod hwn ac mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael gwasanaethu ar y Bwrdd hwn. Dechreuais gymryd rhan trwy rhaglen Arweinyddiaeth Stonewall. Mae gwirfoddoli wedi bod yn rhan o fy mywyd am y ddegawd ddiwethaf gyda Stonewall ac rwy'n hapus i fod wedi gallu cyfrannu fy amser i wneud Cymru, y DU a'r byd yn lle mwy diogel i holl bobl LGBTQ+. Rwy'n cofio rhediadau hwyl, teithiau cerdded a llawer o ddigwyddiadau elusennol pan oeddwn yn iau yn Nhrelái - byddai fy nain bob amser yn codi arian ar gyfer rhywbeth neu'i gilydd. Ac roedden ni'n arfer gwneud 'bob a job' drwy'r haf - esgidiau disgleirio - fel sgowtiaid - felly mae gwirfoddoli a phethau tebyg wedi bod yn rhywbeth rydw i wedi'i wneud erioed.

Yr elfennau gorau o Stonewall i mi fu Priodas Hoyw, ymgyrch Lasys Enfys, ein gwaith i gefnogi ymgyrchwyr mewn llawer o wledydd ar draws y byd, ac ychwanegu'r 'T' i 'LGB' ar gyfer yr elusen.


C2: Fe wnaethoch chi gymryd rhan yn rhaglen ‘Black and Welsh’ ar BBC Wales. Pam roedd hi'n bwysig i chi ddefnyddio'ch llais fel hyn?

Gofynnodd ffrind i mi, Cat, y cynhyrchydd, i mi gymryd rhan. Ces i sgwrs gyda'r Cyfarwyddwr ac fe wnaethon ni ddod ymlaen mor dda. Roedd gennym ni gysylltiadau cydfuddioannol ac roedd yn teimlo'n iawn i wneud y rhaglen. Ac roeddwn i'n meddwl bod y prosiect yn bwysig. Gwnaeth marwolaeth George Floyd hi’n glir i bawb fod pobl dduon – hyd yn oed os nad ydyn nhw yn yr Unol Daleithiau – yn dioddef o amrywiaeth o heriau unigryw mewn cymdeithas ac mai un ffordd o archwilio hynny yw bod yn agored ac yn onest am deithiau llawer of wahanol pobl yn ein wlad. Roeddwn wrth fy modd pa mor amrywiol yw profiad pobl du yng Nghymru ac roeddwn yn hapus i gyfrannu fy llais fy hun i hynny.

C3: Mae wedi bod yn gyfnod heriol i’r gymuned LGBTQ+ ac elusennau LGBTQ+, beth sy’n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?

Wel wrth i mi ysgrifennu hwn, rydym newydd weld y pêl-droediwr hoyw cyntaf yn dod allan ers Justin Fashanu. Rydyn ni wedi gweithio mor galed yn Stonewall gyda'r FA a'r Uwch Gynghrair a nifer o glybiau ac unigolion dros y blynyddoedd. A rhoesom gefnogaeth sylweddol i Jake ar ei daith ddewr. Mae pêl-droed mor dotemaidd yn y wlad hon ac mae gweld Jake yn mynd ar y daith hon ac mae'r gefnogaeth a'r cariad y mae wedi'i brofi yn dangos newid gwirioneddol yn y gymdeithas ac mae hynny'n rhoi gobaith enfawr i mi.

Rydym yn dal i weld gwahaniaethu a her i bobl LGBTQ ledled y wlad ac yng Nghymru. Ac rydym hefyd wedi gweld ein helusen ein hunain wedi cael ei harchilio’n ddwys am ei gefnogaeth i hunaniaethau traws ac anneuaidd. Yr hyn sy'n bwysig yn y pen draw yw ein bod yn cefnogi ein gilydd o fewn y gymuned ac yn estyn allan at gynghreiriaid a chefnogwyr gan gynnwys rhieni, ffrindiau, aelodau'r gymuned, busnesau, ysgolion a darparwyr gofal iechyd a gwleidyddion i rannu ein straeon a rhoi gwybod iddynt mai dim ond bodau dynol yw bob un ohonom yn ceisio bwrw ymlaen â'n bywydau fel unrhyw un arall.

Yr her fwyaf yw cyrraedd sylfaen dystiolaeth synhwyrol ynghylch materion. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig dechrau o bwynt 'cynhwysiant' ar gyfer pob hunaniaeth ac yna gweithio gyda thystiolaeth i lywio gwrthdaro a chymhlethdod. Yr her arall yw y gallwch newid cyfreithiau ond mae dal angen i chi weithio fel cymdeithas i newid safbwyntiau ac agweddau a symud o 'ffieidd-dod, gwadu, gwahaniaethu a chasineb' i 'oddefgarwch' i 'dderbyn yn gadarnhaol'.

Yn olaf, mae yna gwahaniaethau rhwng y cenedlaethau mewn agweddau tuag at bobl LGBTQ+. Ac mae hyn yn rhoi gobaith i mi y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn symud i'r modd derbyn cadarnhaol yng Nghymru a thu hwnt.


C4: Beth yw'r peth gorau am fod yn Gymro?

Roeddwn unwaith yn yr Ariannin ac es i le o'r enw Gaiman. Mae yna gymuned Gymraeg yno ac roedd yn teimlo fel cartref. Felly mae'n debyg, i mi, y peth gorau bob amser yw dod adref.

C5: Pe gallech fod yn gwneud unrhyw beth yn y byd ar hyn o bryd, beth fyddai hynny?

Cerdded yn droednoeth ar dywod cynnes.

C6: Y cyngor gorau a roddwyd i chi erioed?

Bydd ffyn a cherrig yn torri'ch esgyrn ond ni fydd enwau byth yn eich brifo. O fy nain, pan ddes i adref yn crio yn 6 oed o'r ysgol gynradd gan fod y plant wedi fy ngalw i'n enw hiliol yn y maes chwarae.


Credyd llun: Wales Online


0 comments
bottom of page