Gan Glinig Cyfraith LGBTQ+ Caerdydd
Yn fwy nag erioed mewn hanes diweddar, mae'n hollbwysig bod ein cymuned yn ymwybodol o'r hawliau a'r amddiffyniadau cyfreithiol sy’n bodoli ar gyfer ein brodyr a’n chwiorydd traws. Felly, os ydych chi’n unigolyn traws, neu'n adnabod rhywun traws, mae hwn ar eich cyfer chi!
Diolch enfawr i Glinig Cyfraith LGBTQ+ Caerdydd am y canllaw hwn ac am bopeth y mae’n ei wneud dros y gymuned.
DEDDF CYDRADDOLDEB 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach,
Mae naw nodwedd warchodedig:
Oedran
Anabledd
Ailbennu rhywedd
Priodas a phartneriaeth sifil
Beichiogrwydd a mamolaeth
Hil
Crefydd neu gred
Rhyw
Cyfeiriadedd rhywiol
Ailbennu rhywedd
Y nodwedd warchodedig sy'n amddiffyn pobl draws yw "ailbennu rhywedd"
Diffiniad cyfreithiol :
"Mae gan berson nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd os yw’n:
bwriadu mynd trwy,
yn mynd trwy neu
wedi mynd trwy
broses (neu ran o broses) i ailbennu ei ryw trwy newid nodweddion ffisiolegol neu briodoleddau rhyw eraill” - adran 70(1) Deddf Cydraddoldeb 2010
Gall ailbennu rhywedd gyfeirio at drawsnewid cymdeithasol (e.e. newid eich rhagenwau neu’ch ymddangosiad) yn ogystal â thrawsnewid meddygol
Nid oes unrhyw ofyniad i gael neu i gynllunio i gael unrhyw driniaeth feddygol er mwyn i chi gael eich diogelu rhag gwahaniaethu
Gallwch gael eich diogelu cyn i chi drawsnewid, gan fod y diffiniad yn cynnwys unrhyw un sy'n 'bwriadu’ ailbennu eu rhywedd
Gall pobl drawsryweddol o bob oedran gael eu diogelu, gan gynnwys y rheini o dan 18 oed
Mae pobl anneuaidd a rhyweddhylifol yn debygol o gael eu diogelu rhag gwahaniaethu
Wyddech chi
Gallwch chi gael eich diogelu os gwahaniaethir yn eich erbyn oherwydd eich bod yn gysylltiedig â pherson traws. Gelwir hyn yn wahaniaethu drwy gysylltiad.
Er enghraifft, os yw menyw cydryweddol yn wynebu sylwadau negyddol am ei hymddangosiad ac yn cael ei phryfocio gan gydweithwyr sy'n lledaenu sïon ei bod hi'n berson traws. Gallai hyn gyfrif fel aflonyddu anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
DIOGELU
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi'r gwahanol ffyrdd y mae'n anghyfreithlon i drin rhywun.
Pedwar prif fath o ymddygiad gwaharddedig
Gwahaniaethu uniongyrchol
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Aflonyddu
Erledigaeth
Ble ydych chi wedi'ch diogelu?
Yn y gweithle
Wrth ddefnyddio gwasanaeth cyhoeddus e.e. gofal iechyd, addysg, ac ati
Wrth ddefnyddio busnesau neu sefydliadau eraill sy'n darparu gwasanaethau a nwyddau
Wrth ddefnyddio trafnidiaeth
Y rhan fwyaf o glybiau a chymdeithasau
Wrth ryngweithio â chyrff cyhoeddus e.e. awdurdod lleol, carchardai, heddluoedd
GWAHANIAETHU
Gwahaniaethu uniongyrchol
Mae hyn yn golygu trin un person yn waeth na pherson arall oherwydd nodwedd warchodedig.
Os yw person (A) yn gwahaniaethu yn erbyn person arall (B), oherwydd nodwedd warchodedig; Mae A yn trin B yn llai ffafriol nag y mae A yn trin neu y byddai'n trin rhywun arall
Adran 13, Deddf Cydraddoldeb 2010
Enghraifft: mae'r cyflogwr yn trin rhywun arall yn 'llai ffafriol' oherwydd nodwedd na all ei newid.
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Pan fydd polisi/arfer yn cael ei gymhwyso yn yr un ffordd i bawb, ond mae’n rhoi grŵp sy’n rhannu nodwedd warchodedig (e.e. pobl draws) yn arbennig dan anfantais
Adran 19, Deddf Cydraddoldeb 2010.
Fodd bynnag, gall fod yn gyfreithlon os oes 'cyfiawnhad gwrthrychol'.
Enghraifft: mae cwmni ar-lein yn ei gwneud hi'n amhosibl i gwsmeriaid ddiweddaru'r enw
ar eu cyfrifon. A ellir cyfiawnhau hyn yn wrthrychol?
ERLEDIGAETH AC AFLONYDDU
Erledigaeth
Os cewch eich trin yn annheg neu eich cosbi ('yn destun niwed') am arfer eich hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Adran 27, Deddf Cydraddoldeb 2010
Enghreifftiau:
Cael eich cosbi am wneud cwyn
Cael eich cosbi am ddwyn achos cyfreithiol o dan y Ddeddf
Aflonyddu
Ni all pobl eich trin mewn ffordd sy'n tarfu ar eich urddas neu sy'n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus
Adran 26, Deddf Cydraddoldeb 2010
Enghreifftiau:
Iaith sarhaus a ddefnyddir yn gyson
Cam-drin geiriol neu ymddygiad bygythiol
Tri math gwahanol o aflonyddu - Adran 26, Deddf Cydraddoldeb 2010
Ymddygiad digroeso sy’n ymwneud â nodwedd warchodedig berthnasol sydd â’r diben neu’r effaith o darfu ar urddas rhywun neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus iddynt;
Ymddygiad rhywiol digroeso, gyda’r un diben neu effaith; neu
Ymddygiad rhywiol digroeso neu sy’n ymwneud ag ailbennu rhywedd neu ryw, gyda’r un diben neu effaith, a bod y dioddefwr yn cael ei drin yn llai ffafriol nag y byddai pe byddai’n gwrthod yr ymddygiad neu’n ei oddef.
Aflonyddu - beth allai gyfrif?
Jôcs trawsffobig
Difrïo/iaith sarhaus
Camryweddu
Cwestiynau personol busneslyd
Chwerthin am ben/syllu ar/pwyntio at rywun
Clecs/dyfalu ynghylch hanes rhywedd/triniaethau meddygol
Rhannu gwybodaeth heb ganiatâd
CYFLOGAETH
Caniateir absenoldeb o'r gwaith 'oherwydd ailbennu rhywedd' ac ni ddylid ei drin yn llai ffafriol nag unrhyw fath arall o absenoldeb e.e. salwch neu anaf
Adran 16, Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae gennych yr hawl i wisgo dillad yn unol â'ch hunaniaeth o ran rhywedd. Mae gennych yr hawl i ddiweddaru eich e-bost, cerdyn adnabod yn y gwaith, ffotograffau, a phroffiliau gweithle i adlewyrchu eich hunaniaeth o ran rhywedd.
Mae gennych hawl i breifatrwydd.
Ni ddylai eich statws rhyweddol na’ch hanes trawsnewid gael eu datgelu heb eich caniatâd. Os cewch Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, rhaid newid eich cofnod cyflogaeth (ac eithrio eich pensiwn a’ch Yswiriant Gwladol).
GOFAL IECHYD
Dylech allu diweddaru eich enw, eich teitl a’ch rhywedd ar eich cofnodion meddygol ar gais.
Mae gennych yr hawl i gael parch tuag at eich hunaniaeth wrth ddefnyddio gwasanaeth gofal iechyd. Ni ddylech gael eich camryweddu.
TAI
Mae gennych hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu yn eich erbyn gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â chais digartrefedd.
Mae gennych yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu gan asiantiaid gosod eiddo/landlordiaid - fel peidio â chael gweld neu dderbyn eiddo oherwydd eich statws hunaniaeth rhywedd
EITHRIADAU
Eithriadau ar gyfer chwaraeon
Gall Deddf Cydraddoldeb 2010 ganiatáu i bobl draws gael eu heithrio rhag cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau chwaraeon yn unol â'u hunaniaeth, ond dim ond mewn amgylchiadau penodol. Rhaid i'r sefydliad ddangos ei bod yn angenrheidiol eich gwahardd i sicrhau diogelwch cystadleuwyr neu gystadleuaeth deg. Mae gan y rhan fwyaf o gyrff llywodraethu chwaraeon eu polisïau eu hunain ynghylch hybu cyfranogiad pobl draws mewn chwaraeon. Os ydych wedi cael eich gwahardd yn annheg rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, efallai y gallwch herio hyn yn gyfreithiol.
Eithriad ar gyfer gwasanaethau un rhyw
“Os ydych yn defnyddio gwasanaeth a ddarperir ar gyfer dynion yn unig neu fenywod yn unig, dylai’r sefydliad sy’n ei ddarparu eich trin yn unol â’ch hunaniaeth rhywedd. Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, mae’n gyfreithlon i sefydliad ddarparu gwasanaeth gwahanol neu i wrthod y gwasanaeth i rywun sy'n mynd trwy’r broses o ailbennu eu rhywedd, sy’n bwriadu gwneud hynny neu sydd eisoes wedi mynd drwy’r broses.”
Cod Ymarfer Statudol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Gwasanaethau)
NEWID EICH RHYWEDD YN GYFREITHIOL
Er mwyn newid eich rhywedd yn gyfreithlon a chael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd, mae'n rhaid i chi fynd drwy'r broses ganlynol:
Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn, ac wedi byw yn y rhywedd a nodwyd gennych am ddwy flynedd cyn i chi wneud eich cais
Sylwer nad yw’r rhywedd a nodwyd yn cynnwys hunaniaethau anneuaidd ar hyn o bryd
Gall y dystiolaeth gynnwys pasbort, llyfrau rhent, slipiau cyflog, neu lyfr budd-daliadau
Mae gennych ddiagnosis, neu rydych wedi cael diagnosis, o ddysfforia rhywedd
Nid oes angen i chi fod wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd, ond bydd yn rhaid ichi ddarparu dau adroddiad meddygol. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys un yn rhoi diagnosis o ddysfforia rhywedd i chi, gan 'arbenigwr rhywedd', ac un aralll gan eich meddyg teulu.
Bydd yn rhaid i chi lofnodi datganiad cyfreithiol eich bod yn bwriadu byw yn eich rhywedd newydd hyd at farwolaeth, yn ogystal â datganiad statudol nad ydych yn briod. Os ydych yn briod, rhaid i'ch priod roi caniatâd cyn y gellir rhoi tystysgrif lawn.
Mae'r cais yn costio £5 - er y gall costau cael tystiolaeth ategol fod yn llawer uwch
Yna caiff eich cais ei drosglwyddo i Banel Cydnabod Rhywedd, sy'n cynnwys aelodau cyfreithiol a meddygol. Yn gyffredinol, ystyrir ceisiadau heb eich presenoldeb ac yna gall y Panel ofyn am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth gennych yn ystod y cam hwn.
Os yn llwyddiannus, bydd eich tystysgrif yn cael ei defnyddio i gynhyrchu tystysgrif geni newydd. Os caiff ei wrthod, rhaid i'r Panel roi rhesymau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Canlyniadau cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd
Mae'n caniatáu i bobl draws dderbyn tystysgrif geni sy'n adlewyrchu eu hunaniaeth rhywedd a dyma fydd y rhywedd gaffaeledig i bob pwrpas e.e. priodasau, pensiynau, ac ati.
Adran 9, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Nid yw'n effeithio ar statws y person fel tad neu fam i blentyn.
Adran 12, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Canfu achos diweddar fod yn rhaid cyfeirio at ddynion traws fel 'mamau' ar dystysgrifau geni plant os ydynt wedi rhoi genedigaeth.
Hawliau preifatrwydd: os yw rhywun wedi cael gwybodaeth am hanes rhyweddol ymgeisydd neu geisiadau mewn capasiti proffesiynol penodol, mae'n drosedd datgelu'r wybodaeth honno.
Adran 22, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Mae rhai eithriadau i'r uchod, ac mae terfyn amser o chwe mis ar gyfer gweithredu.
ANGEN CYMORTH PELLACH?
Cysylltwch â'r clinig ar:
Ffôn: 02920 453 111
Cyfryngau Cymdeithasol: @cardiffLGBTQLaw
Comments