- Ellis Peares
Grwpiau cydraddoldeb mewn ysgolion
Updated: Mar 2
Ydych chi erioed wedi clywed am ysgol sydd â grŵp wedi'i ddynodi ar gyfer cydraddoldeb?

Ers fy ethol i Senedd Ieuenctid Cymru, rwyf wedi siarad â nifer o wleidyddion, ymgyrchwyr hawliau dynol, ac yn bwysig iawn, pobl ifanc am bwysigrwydd grwpiau cydraddoldeb o fewn ysgolion. Fel disgybl, ac aelod o grŵp cydraddoldeb ysgol (Undod), rwy’n credu’n gryf bod cael grŵp fel hwn ym mhob ysgol, yn ffordd effeithiol o weithio tuag at ddim goddefgarwch tuag at wahaniaethu yng Nghymru.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae sawl ysgol wedi datblygu grwpiau cydraddoldeb sydd wedi'u dylunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Efallai mai'r mwyaf adnabyddus o'r rhain yw'r grŵp LGBTQ+ sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cael ei arwain gan ddisgyblion - "Digon'' yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Cyrhaeddodd Digon rownd derfynol Gwobr Dewi Sant yn y categori "Person Ifanc" am eu gwaith rhagorol ers eu sefydlu yn 2011.

Nid Digon yw'r unig grŵp mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr wedi ei greu. Mae ganddyn nhw hefyd "Balch" - wedi'i greu i ymgyrchu yn erbyn hiliaeth,"Newidffem" grŵp cydraddoldeb rhywedd sy'n parhau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfle cyfartal i fenywod, ac yn olaf "Medru", grŵp sy'n ymroddedig i gydraddoldeb i bobl anabl.
Felly, beth yw grwpiau cydraddoldeb o fewn ysgolion uwchradd?
Grwpiau ysgolion uwchradd yn gwrpiau sy'n cael eu harwain gan naill ai disgybl neu athro. Gall gweithgareddau y gall grwpiau cydraddoldeb eu trefnu amrywio o grŵp i grŵp; o ffurfio cynghorau ysgol dynodedig i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb, i weithgareddau cymdeithasol megis gwylio ffilmiau cwiar gyda chyfoedion. Does dim amlinelliad penodol o'r hyn y mae angen i grŵp cydraddoldeb ei wneud i weithredu, sy'n golygu y gall y rhai sydd â diddordeb mewn ffurfio un fod yn greadigol ym mha bynnag ffordd y dymunant!
Pam fod grwpiau cydraddoldeb o fewn ysgolion uwchradd Cymru yn bwysig?
Prif nod y grwpiau hyn yw hyrwyddo cynhwysiant a derbynhad, cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu heiriolaeth, gwella sgiliau arwain a chyflwyno, a chodi ymwybyddiaeth am ddathliadau penodol megis Mis Balchder neu Hanes Pobl Dduon. I ddisgyblion, mae gan grwpiau cydraddoldeb nifer o fanteision megis eu helpu i deimlo’n fwy hyderus yn eu rhywioldeb, rhoi gofod iddynt fynegi eu hunain, ac amgylchedd diogel i godi eu lleisiau ar faterion sy’n bwysig iddynt.
"Mae grwpiau fel Digon yn bwysig oherwydd maen nhw'n creu gofod diogel i ddisgyblion LHDTC+ o fewn yr ysgol."
Arweinydd Digon, Maisie Mouncher

Mae grwpiau cydraddoldeb hefyd yn ffordd effeithiol o gael pobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth. A siarad o brofiad personol, ac o'r hyn rydw i wedi'i glywed gan bobl ifanc eraill, mae ymuno â'r grwpiau hyn wir wedi ysgogi mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Pobl ifanc yw’r dyfodol, felly mae annog pobl ifanc i fynd â’u lleisiau a’u barn i mewn i wleidyddiaeth yn brofiad anhygoel.
"Mae Digon hefyd wedi caniatáu i mi fod yn aelod balch o Senedd Ieuenctid Cymru a fydd yn cael mynediad i Digon i'r llwyfan i fynd i'r afael â'r nifer o homoffobia a thrawsffobia yn ysgolion Cymru"
- Ffred

Pam y dylai bob ysgol cael grwpiau sy'n ymladd dros gydraddoldeb?
Newidiodd y grŵp cydraddoldeb yn fy ysgol bopeth i mi!
Gall disgyblion fynegi eu hunain yn llawn tra'n gwybod na fyddant yn cael eu barnu oherwydd yn bwysig iawn, maent yn caniatáu i ddisgyblion gael eu clywed. Gellir cymryd enghraifft o 'Adroddiad Ysgol Stonewall 2017'o le byddai gofod o'r fath o fudd i ddisgyblion. Dangosodd fod 45% o bobl ifanc trawsrwyeddol wedi ceisio lladd eu hunain. Mae wedi'i brofi, os yw pobl ifanc yn gallu mynegi eu gwir hunaniaeth neu rywioldeb i hyd yn oed nifer fach o bobl, yna gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pobl ifanc drawsryweddol.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei nod i fod y wlad fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop. Rwyf wir yn credu bod hyn yn bosibl, os cydnabyddir bod pobl ifanc eisiau dweud eu dweud yn y materion hyn, eisiau bod yn rhan o ddemocratiaeth, ac mae eu barn yr un mor bwysig ag unrhyw un arall. Byddai hefyd yn gadarnhaol gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i gefnogi ysgolion i sefydlu grwpiau cydraddoldeb.
Gall grwpiau cydraddoldeb helpu cannoedd o ddisgyblion ac o leiaf, cynnig lle diogel iddynt fod yn nhw eu hunain.
Ellis Peares ( ef/ef, ef )
Ymlaen, dros Gymru
Aelod o'r Senedd Ieuenctid Cymru am Canolog Caerdydd - Swyddog Cydraddoldeb Plaid Ifanc - Aelod o Fwrdd Iechyd Ieuenctid Caerdydd a'r Fro