Ar Nos Wener gwelwyd 'The TikTok Show' yn Cabaret Canolfan Mileniwm Cymru, gofod cwiar-gyfeillgar yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a rhaid i mi ddweud, roedd yn brofiad gwirion dros ben. Daeth y sioe ag ensemble o actau drag a chomedi adnabyddus o TikTok a’r ddinas ynghyd, gan gynnwys Bailey J Mills, Ellis Lloyd Jones, Justin Drag, a Jordropper, gan arwain at noson llawn chwerthin, talent, a mynegiant cwiar di-ben-draw.
O’r eiliad gychwynnodd y sioe, roedd yn amlwg bod Justin Drag yn ddewis gwych fel gyflwynydd y noson. Gydag egni uchel a gallu naturol i gysylltu â'r gynulleidfa, gosododd Justin y naws yn ddiymdrech ar gyfer noson o hwyl a dathlu heb ymddiheuriad. Cadwodd eu trawsnewidiadau rhwng perfformwyr yn ddi-dor a ddigrif yn sicrhau momentwm yn uchel drwy gydol y sioe. Aeth Ellis Lloyd Jones, sy’n ebwog am ei quips TikTok doniol, â’i hiwmor i lefel newydd drwy grefftio caneuon comig o’r pytiau adnabyddus hyn. Roedd ei allu i wisgo fel afal tra’n canu yn boblogaidd dros ben gyda’r gynulleidfa. Gyda’r cyfuniad unigryw o amseru comedi a thalent gerddorol creuwyd Ellis brofiad unigryw a hynny’n profi pam ei fod wedi gwneud enw iddo’i hun ar yr ap cyfryngau cymdeithasol.
Daeth Jordropper, sy'n ymgorfforiad o hynodrwydd a swyn, â phersbectif adfywiol a chynhwysol i'r llwyfan. Roedd yn galonogol eu gweld yn cyfeirio at niwrowahaniaeth, gan daflu goleuni ar bwysigrwydd cynrychiolaeth. Ychwanegodd eu hiwmor di-flewyn-ar-dafod a'u presenoldeb llwyfan magnetig elfen o anrhagweladwyedd a oedd yn cadw'r gynulleidfa'n brysur ac yn awyddus i gael mwy. Fodd bynnag, fe wnaeth y chwedlonol Bailey J Mills ddwyn y sioe yn wirioneddol. Roedd repertoire helaeth Bailey o ymadroddion a chymeriadau, gan gynnwys yr eiconig Velma o Scooby-Doo a Tracy Beaker, yn arddangos eu hamlochredd a’u dawn anhygoel. P'un ai'n gwisgo dannedd siop jôc neu'n cyflwyno hiwmor sych, roedd gan Bailey y gynulleidfa mewn ffitiau o chwerthin. Roedd bod yn dyst i'w hathrylith digrif yn brofiad fythgofiadwy.
Profodd cabaret ei hun yn lleoliad delfrydol ar gyfer The TikTok Show. Roedd y gofod yn taro’r cydbwysedd perffaith rhwng agosatrwydd a chynhwysedd, gan sicrhau bod gan bawb olygfa wych o’r perfformwyr. Roedd y cyfleusterau hygyrch a’r awyrgylch cyfeillgar yn gwella’r profiad cyffredinol ymhellach, gan greu amgylchedd lle gallai pawb deimlo bod croeso iddynt a’u dathlu. Un o agweddau mwyaf clodwiw gofod y Cabaret yw ei allu i arddangos nid yn unig dawn aruthrol perfformwyr Cymreig ond hefyd actau o bedwar ban byd. Roedd y gynrychiolaeth a’r amrywiaeth hwn yn tanlinellu ymrwymiad y gofod i gynhwysiant a dathlu talent cwiar ar raddfa ehangach gan agor cynulleidfa newydd sbon i Gaerdydd a’i phobl leol a cwiar.
Comments