- Gareth Evans-Jones
Y Baseliners

Am yr un nesaf yn ein cyfres o erthyglau yn tynnu sylw at glybiau chwaraeon a chymdeithasol LHDTC+, buom yn siarad â Baseliners Caerdydd. Dyma’r Clwb Tenis LHDTC+ cyntaf yng Nghymru ac, ers mis Mawrth 2022, mae wedi bod yn enill ei le fel rhan bwysig o’r byd LHDTC+ De Cymru.
Yn LGBTQymru, rydym yn falch iawn o weld pobl yn rhoi eu pennau uwchben y parapet, yn cymryd yr awenau ac yn creu clybiau chwaraeon a chymdeithasol ar gyfer ein cymunedau LHDTC.
Bydd unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn gwybod bod bwlch amlwg wedi bod yn yr hyn a oedd yn cael ei gynnig o ran chwaraeon i bobl LHDTC+. Gyda diddordeb cynyddol a nawr gyda dros 30 o aelodau, roeddem eisiau darganfod mwy.
Dywedodd sylfaenydd y Baseliners, Neil Roberts:
“Roedd gennym ni glwb LHDTC+ ar gyfer rygbi, pêl-droed a badminton, ond doedd gennym ni ddim tebyg ar gyfer tenis mewn unrhyw ran o Gymru. Sefydlais y clwb hwn, gyda chefnogaeth Tenis Cymru, i ganiatáu i’r holl bobl LHDTC+ fwynhau tennis cymaint â mi.”
Heb os, mae’r clwb wedi sefydlu ei hun dros ddau dymor ac wedi dod yn rhan annatod o’r byd chwaraeon LHDTC+ a’n cymuned cwiar yng Nghaerdydd. Mae’r clwb yn cynnig lle diogel i bobl LHDTC+ nad ydynt wedi cael mynediad i glwb traddodiadol i ddod i chwarae, heb farnu, ac mae’n rhoi lle iddynt syrthio mewn cariad â’r gêm!

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’r clwb wedi bodoli yng Nghaerdydd 10 mlynedd yn ôl a’r hyn sydd o’n blaenau, dywedodd Neil:
“O bosib, fe allai fod wedi dechrau flynyddoedd yn ôl ond fe allai fod wedi cymryd mwy o amser i’w sefydlu. Fodd bynnag, rydym wedi cael llawer iawn o gefnogaeth gan Tenis Cymru, sydd wedi ein galluogi i ddatblygu’n gyflym iawn ers ein sefydlu.”
“Ar gyfer y dyfodol rydym yn anelu am aelodaeth hapus a chynyddol, twrnameintiau rheolaidd gyda chlybiau tenis LHDTC+ eraill y DU, i gymryd rhan mewn twrnameintiau eraill yma yn Ne Cymru, ac i gefnogi clybiau tennis LHDTC+ eraill i ddod i’r brig ledled Cymru a gweddill y byd. DU.”
Tra bod hyfforddi a chwarae tenis yn rhan annatod o'r Baseliners, mae'n ymfalchïo yn yr agweddau cymdeithasol o fod yn rhan o'r clwb ac mae'n wych gweld eu bod yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn eu lleoliad partner, The Golden Cross yng Nghaerdydd.
Mae sesiynau hyfforddi rheolaidd y clwb yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn rhwng 12 a 2 y.h. ym Mharc y Mynydd Bychan, Caerdydd. Fodd bynnag, rhag ofn y bydd glaw, mae'n well cadw llygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y clwb am ddiweddariadau!
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Baseliners, cysylltwch trwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol:
Twitter @DiffBaseliners
Facebook ac Insta @CardiffBaseliners
neu E-bostiwch CardiffBaseliners@gmail.com.
Maen nhw'n edrych ymlaen at glywed gennych chi!
Os oes gennych chi grŵp neu gymdeithas chwaraeon neu gymdeithasol gynhwysol LHDTC+ yr hoffech i ni dynnu sylw ato, cysylltwch â Magazine@LGBTQymru.Wales