- Emily Bryant
Sut Gyrhaeddais i Yma: Kayleigh Llewellyn
Awdur, crëwr, actores a chynhyrchydd yw Kayleigh Llewellyn. Yn fenyw lesbiaidd falch, hi yw crëwr, awdur a chynhyrchydd gweithredol y gyfres arobryn BAFTA, In My Skin (BBC). Ysgrifennodd hefyd ar gyfresi eraill o fri fel Killing Eve (BBC/AMC) a
Chloe (BBC).
Siaradodd â ni am yr hyn a'i harweiniodd at ei llwybr presennol a'i phrofiad ohono.
Beth ddechreuodd eich ysgrifennu yn wreiddiol?

Cystadleuaeth ysgrifennu! Hyfforddais fel actor yn wreiddiol, ond nid oeddwn yn arbennig o lwyddiannus. Yna yn 2012 fe wnes i gais am Wobr Ysgrifennu Comedi Newydd BAFTA Rocliffe ac ennill. Roedd honno'n droed enfawr yn y drws i mi. Ac wrth lwc, un o'r bobl oedd ar y panel oedd Shane Allen - oedd ar y pryd yn gomisiynydd comedi newydd i’r BBC. Roedd yn hoff o'n cais i'r gystadleuaeth ac fe'n comisiynodd ni'n ffurfiol i ysgrifennu'r 2 bennod gyntaf. Yn y pen draw ni chafodd y gyfres ei chodi, ond roedd yn golygu fy mod yn cael fy nhalu i ysgrifennu - oedd hynny yn enfawr i mi. Ac yna yn 2018 Shane Allen wnaeth oleuo In My Skin yn wyrdd, felly mae e wedi bod yn arwyddocaol iawn yn fy ngyrfa.
Sut wnaethoch chi ddechrau ysgrifennu ar gyfer Casualty a'r BBC?
Yn 2015, ysgrifennais a serennu mewn ffilm fer o'r enw Oh Be Joyful ochr yn ochr â Sheila Reid. Roedd yn gromlin ddysgu enfawr i mi, a daeth i ben gan wneud yn dda yng nghylchdaith yr ŵyliau ffilm. Yna syrthiodd y ffilm honno i ddwylo cynhyrchydd ar gyfer Casualty, Roxanne Harvey. Gwelodd hi botensial ynddo a gwahoddodd fi i ysgrifennu ar y sioe.
Sut brofiad oedd mynd i ystafell yr awduron ar gyfer Killing Eve?
Roedd yn broses hir i adeiladu fy ngyrfa i bwynt lle gallwn gael fy ystyried ar gyfer sioe mor uchel ei phroffil. Y cam cyntaf oedd arwyddo gydag asiant llenyddol yn ôl yn 2012, a helpodd hynny i agor drysau proffesiynol. Y cam mawr nesaf oedd ysgrifennu ar Stella (Sky One), sef fy nghredyd darlledu cyntaf. Yna ysgrifennais fy ffilm fer a gweithiais ar Casualty. Drwy gydol y cyfnod hwnnw roeddwn yn cyflwyno gwahanol sioeau ac yn eu datblygu gyda chynhyrchwyr, yn ysgrifennu sgriptiau penodol, ond doedd dim byd yn cael ei godi. Ac yna daeth In My Skin draw a dyna'r foment pryd y cyflymodd pethau i mi yn wirioneddol. Dyna a arweiniodd at gael fy ystyried ar gyfer Killing Eve, ond ni ddigwyddodd dros nos.
Sut brofiad oedd y broses ar gyfer datblygu prosiect mor bersonol fel In My Skin?
Yn onest, roedd yn brofiad eithaf cathartig. Roedd yn ddiweddglo hapus gobeithiol i’r cyfnod hwnnw o fy mywyd. Roeddwn i'n gallu gwneud rhywbeth positif allan o brofiad poenus a'i ddefnyddio i helpu pobl. Nid oedd heb gymhlethdod, wrth gwrs. Mae ysgrifennu rhywbeth mor personol yn eich rhoi mewn sefyllfa fregus iawn. Roedd yn rhaid i mi gael sgyrsiau anodd gydag aelodau’r teulu am y profiadau a ddarluniwyd yn y sioe, gan nad fy stori i yn unig oedd hi i'w hadrodd. Roedd yn hynod o agored mewn sawl ffordd, ond yn y pen draw fe'i bodlonwyd â chynhesrwydd a chydnabyddiaeth gan gynulleidfaoedd. Rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.
Sut deimlad yw hi i fod wedi ennill BAFTA amdano?
Daw breuddwyd yn wir! Roedd y ffaith ein bod yn gallu cystadlu ar lwyfan o’r fath yn anhygoel – roedd gennym gyllideb fach iawn a bron dim cyhoeddusrwydd. Dim ond grŵp o ferched oedden ni a oedd yn poeni am adrodd y stori hon. Pan enillon ni, cefais fy chwythu i ffwrdd yn llwyr. Roeddwn i wastad wedi breuddwydio am ennill BAFTA, ac mae’n fendigedig. Ond dwi bellach yn gwybod mai’r profiad o wneud y sioe a gweithio gyda phobl mor anhygoel oedd yr anrheg fwyaf.
A oes gennych unrhyw gynlluniau/prosiectau cyffrous ar y gweill y gallwch eu rhannu?
Mae gennyf ddau brosiect arall yn cael eu paratoi y gallaf eu rhannu. Mae un yn brosiect gwreiddiol wedi’i osod yng Nghymru ar gyfer Channel 4, a’r llall yn addasiad o Dreamland gan Rosa Rankin-Gee.
Oes gennych chi unrhyw gyngor i unrhyw un sydd am fynd ati i ysgrifennu?
Er bod syndrom imposter yn bodoli ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae'n aml yn fwy cyffredin ymhlith menywod, pobl queer, unrhyw un o grŵp ymylol. Y cyfan y gallwch chi ei wneud yw ceisio cau'r llais sy'n dweud wrthych nad ydych ynhaeddiannol - er mor anodd yw hynny o bosib. Gofynnwch i chi'ch hun 'pam ddim fi?' Bydd rhywun arall yn ysgrifennu'r straeon hyn os na wnewch chi - mae'n debyg yn ddyn gwyn syth, a phob pŵer iddynt ond mae mor bwysig cael pobl sydd wedi byw rhai profiadau, i fod y rhai sy'n ysgrifennu amdanynt. Mae gennym ni i gyd yr hawl i adrodd ein straeon.
You can find In my skin on BBC IPLAYER.
Find Kayleigh @KayDLlew on Twitter.