Bu llawer o sôn am therapi trosi (conversion therapy) yn ddiweddar. Os ydych chi'n pendroni beth yw e, caiff ei alw weithiau'n "reparative therapy" neu'n "gay cure therapy" ac mae'n ceisio newid cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd unigolyn. Caiff ei gondemnio’n eang am fod yn anfoesol ac am y niwed y gall ei wneud i les meddyliol unigolion.
Cafwyd ymrwymiad hirsefydlog gan Lywodraeth y DU i'w wahardd, ond mae’n ymddangos mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed.
Y stori hyd yn hyn yw, yn dilyn Araith y Frenhines i'r Senedd ym mis Mai 2021 a nododd raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, cyhoeddodd Liz Truss AS, Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb y DU, y bwriad i wahardd therapi trosi ac i sefydlu cronfa gymorth sy'n cynnig help i'r rhai y mae therapi trosi yn effeithio arnynt. Meddai:
“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl yn y wlad hon yn cael eu hamddiffyn, ac mae’r cynigion hyn yn golygu na fydd neb yn destun therapi trosi gorfodol a ffiaidd”.
Mae hynny’n swnio’n wych, yn tydi? Felly pam mae yna ddadlau ynglŷn â'r mater?
Rydym yn credu bod gormod o gafeatau o lawer. Mae gwefan Llywodraeth y DU sy’n cyhoeddi datganiad y Gweinidog yn dweud y byddai Bil yn cael ei gyflwyno “cyn gynted ag y bydd yr amser seneddol yn ei ganiatáu”. Mae hyn yn awgrymu nad oes digon o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i ddeddfu ar y mater.
Yn ôl yn 2018, tra bod Theresa May yn Brif Weinidog, addawodd Llywodraeth y DU y byddai'n cael ei wahardd yn ei chynllun gweithredu cydraddoldeb. Ym mis Mawrth, gadawodd tri chynghorydd y Panel Cynghori LGBT gan honni bod Llywodraeth y DU yn rhy araf, tra bod Stonewall wedi datgan y dylai “roi’r gorau i lusgo’i thraed”.
Bydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn peri rhagor o oedi cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth a addawyd. Mewn modd pryderus o niwlog, mae gwefan Llywodraeth y DU yn nodi y bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn bellach gan y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod therapi trosi yn cael ei wahardd gan amddiffyn y proffesiwn meddygol a’r rhyddid i lefaru, a chynnal rhyddid crefyddol ar yr un pryd. Nid ydym yn siŵr yn union beth y mae hynny'n ei olygu, ond os oes eithriadau i'r gwaharddiad, yn ddi-os, bydd cynnwrf mawr ymysg y gymuned LGBTQ a'n cynghreiriaid.
Efallai y bydd rhai darllenwyr yn cofio bod arolwg LGBT gan y Llywodraeth ledled y DU wedi’i gynnal yn 2018. Adroddir bod tua 5% o’r 108,000 o bobl a ymatebodd wedi dweud eu bod wedi cael cynnig therapi trosi, tra bod 2% wedi dweud eu bod wedi cael y driniaeth.
Mae adroddiadau ar yr arolwg yn nodi bod tua 10% o’r ymatebwyr Cristnogol ac 20% o’r ymatebwyr Mwslimaidd wedi dweud eu bod wedi cael therapi trosi neu ei fod wedi’i gynnig iddynt, o gymharu â 6% heb unrhyw grefydd. Dywedodd mwy na hanner ohonynt ei fod wedi’i gynnal gan grŵp ffydd, tra bod un o bob pump wedi ei gael gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ym mis Gorffennaf, trydarodd y Fonesig Angela Eagle DBE AS, ymgyrchydd LGBTQ+ ers amser, fod yn rhaid i Lywodraeth y DU “fwrw ymlaen â chyflwyno gwaharddiad llwyr ar therapi trosi heb unrhyw eithriadau crefyddol” yn dilyn ei chyfraniad i’r ddadl mis Pride yn Nhŷ’r Cyffredin. Cymerwch funud i weld ei chyfraniad drwy garedigrwydd Tŷ'r Cyffredin.
Roeddem yn falch iawn o ddarllen ar 24 Mehefin bod Esgobaeth Llandaf wedi trydaru: “Does dim esgus. Gwaharddwch Therapi Trosi i Bobl Hoyw meddai Mainc Esgobion @YrEglwysYngNghymru”. Rydym yn bachu ar y cyfle hwn i gyhoeddi eu datganiad byr ochr yn ochr â'r erthygl hon.
Yn LGBTQymru, rydym yn teimlo bod y llanw'n troi ar yr arfer hen ffasiwn, sarhaus a hynod niweidiol hwn a bod barn y cyhoedd ar ein hochr ni diolch i waith diflino yr ymgyrchwyr. Rydym yn frwd o blaid gweld newid o ran y mater hwn felly rydym yn annog Llywodraeth y DU i symud gyda mwy o frys a blaenoriaeth i wneud yr arfer hwn yn anghyfreithlon.
Comments