Priodas Gyfartal?
Priodasau cyplau o’r un rhyw mlynedd yn ddiweddarach: a yw cydraddoldeb cyfreithiol llawn wedi’i gyflawni?
Dr. Ruth Gaffney-Rhys, Athro Cyswllt mewn Cyfraith Teulu, Prifysgol De Cymru
Pan ddathlwyd y priodasau cyntaf rhwng cyplau o’r un rhyw yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2014, disgrifiodd Ruth Hunt, Prif Weithredwr Stonewall ar y pryd, y diwrnod fel un 'tyngedfennol', a oedd yn nodi 'cydraddoldeb cyfreithiol llawn i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol'. Roedd y diwrnod yn sicr yn un tyngedfennol, ond ni chreodd, mewn gwirionedd, gydraddoldeb cyfreithiol llawn, gan fod rhai gwahaniaethau cyfreithiol rhwng priodas cwpl o'r un rhyw a phriodas cwpl o rywiau cymysg.
Yn gyntaf, mae cyfyngiadau ar ddathlu priodasau cyplau o un rhyw mewn addoldai, nad ydynt yn berthnasol i gyplau o rywiau cymysg. Dim ond os yw corff llywodraethol y sefydliad wedi optio i mewn ac os yw'r cynrychiolydd unigol yn barod i weinyddu'r undeb y gellir cynnal seremonïau priodasau cyplau o'r un rhyw mewn adeilad crefyddol. Diwygiwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 gan Ddeddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 i atal hawliadau gwahaniaethu llwyddiannus rhag cael eu gwneud yn erbyn sefydliadau crefyddol a'u cynrychiolwyr sy'n gwrthod cynnal priodasau. Nid yw'r mwyafrif wedi optio i mewn, ond pleidleisiodd yr Eglwys Fethodistaidd o blaid dathlu priodasau cyplau o'r un rhyw ym mis Mehefin y llynedd.
Ar ôl i'r briodas gael ei ffurfio, mae priodas cwpl o’r un rhyw a chwpl o rywiau cymysg yn cael eu trin yn yr un modd yn gyffredinol e.e. mewn perthynas â'r hawl i wneud cais am ddarpariaeth ariannol ar gyfer ysgariad, trethiant, etifeddiaeth ac amddiffyniad rhag cam-drin domestig. Mae ganddyn nhw hefyd yr un hawliau o ran mabwysiadu plant, plant sydd wedi’u geni gan bobl eraill ar ran cwpl, cynnal plant a hawliau mewn perthynas â phlant pan fydd cwpl yn gwahanu. Fodd bynnag, mae'r gyfraith sy'n ymwneud ag atgenhedlu â chymorth (a gynhwysir yn Neddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008) yn gwahaniaethu rhwng cyplau o'r un rhyw a chyplau o rywiau cymysg i raddau. Os bydd cwpl o rywiau cymysg yn beichiogi gyda chymorth rhoddwr sberm, bydd y gŵr yn cael ei drin fel 'tad' y babi (oni bai nad oedd yn cydsynio i'r driniaeth). Os yw cwpl benywaidd yn derbyn triniaeth, y fenyw a esgorodd ar y babi yw'r 'fam' gyfreithiol, a'i gwraig yw'r 'rhiant cyfreithiol' arall. Mater o derminoleg yn hytrach na sylwedd yw hwn, ond gellir ei ystyried fel amharodrwydd i dderbyn rhieni o'r un rhyw yn gyfartal.
Roedd gwahaniaeth yn arfer bod hefyd o ran pensiynau galwedigaethol. Bydd priod o'r un rhyw yn derbyn budd-daliadau a roddir i briod sy'n goroesi o dan y cynllun pensiwn os bydd eu priod yn marw, yn yr un modd ag y mae priod o'r rhyw arall yn ei wneud. Ond, roedd y swm sy'n daladwy i briod o'r un rhyw sydd wedi goroesi wedi’i seilio yn unig ar gyfraniadau a wnaed ar ôl 5ed Rhagfyr 2005 (y dyddiad y daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004, a oedd yn galluogi cyplau o'r un rhyw i lunio perthynas ffurfiol am y tro cyntaf, i rym). Heriwyd y driniaeth wahaniaethol hon, ac yn dilyn dyfarniad gan Lys Cyfiawnder yr UE, datganodd y Goruchaf Lys ei fod yn anghydnaws â chyfraith yr UE (Walker v Innospec Ltd. 2017). O ganlyniad, ni all cynlluniau pensiwn wahaniaethu rhwng cyplau o'r un rhyw a chyplau o wahanol rywiau wrth gyfrifo budd-daliadau marwolaeth.
Mae rhai gwahaniaethau’n bodoli o ran dirymu a diddymu priodasau. Gellir dirymu priodas cwpl o rywiau cymysg oherwydd nad yw wedi’i chyflawni ond ni ellir gwneud hynny o ran priodas cwpl o'r un rhyw. O ystyried bod dirymiadau'n brin iawn, nid oes fawr o arwyddocâd ymarferol i’r gwahaniaeth hwn. Ar adeg ysgrifennu’r erthygl, mae'n bosibl ysgaru ar sail godinebu, ond dim ond ymddygiad rhwng cyplau o rywiau cymysg sy'n cynrychioli achos o odinebu, ac nid ymddygiad mewn priodas rhwng cyplau o'r un rhyw. Os yw priod o'r un rhyw yn cael perthynas y tu allan i’r briodas, gellir seilio'r ysgariad ar 'ymddygiad' ond nid 'godinebu'. Fodd bynnag, mae Deddf Ysgariad, Diddymu a Gwahanu 2020, y mae disgwyl iddi ddod i rym ym mis Ebrill 2022, yn dileu godineb ac ymddygiad o gyfraith ysgariad Cymru / Lloegr (gan osod system o hysbysiad a chadarnhâd o fethiant priodas). Mae hyn i'w groesawu, nid yn unig oherwydd y bydd yn lleihau gwrthdaro mewn achosion o ysgariad, ond oherwydd ei fod yn dileu un o'r gwahaniaethau sy'n weddill rhwng priodasau cyplau o rywiau cymysg a phriodasau cyplau o'r un rhyw. Ond fel yr eglurwyd yn yr erthygl hon, nid yw 'cydraddoldeb llawn' wedi'i gyflawni eto.
Comments