Mae hanes y gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol yn un cyfoethog yng Nghymru ac mae'n hanfodol ymdrochi yn yr hanes hwn er mwyn cydnabod sylfeini gwreiddiol cymunedau LGBTQ+, cydnabod y sylfaenwyr ac, yn bwysicaf oll, ddathlu pa mor bell y mae'r gymuned wedi dod. Bydd yr erthygl hon yn eich tywys i'r cyfeiriad cywir o ran lle y gallwch gael hyd i straeon unigryw am LGBT Cymru.
Mae nifer o flogiau ac erthyglau sy'n trafod ac yn ymchwilio i hanes LGBT Cymru. Dyma rai ohonyn nhw, Cymru ers 1945, Y Gronfa Dreftadaeth, Senedd Ieuenctid Cymru, Yr Amgueddfa Brydeinig, Blog The Comma Press ac Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, sy’n cyffwrdd ar straeon o hanes LGBT.
Mae Norena Shopland, sylfaenydd Rainbow Dragon, yn cynhyrchu straeon am hanes LGBT Cymru. Un o’i hoff storïau a rannodd oedd bywyd Girly Grey o bapur newydd yn dyddio'r holl ffordd yn ôl i 1890. Mae'r stori yn adrodd hanes Girly Grey a ffurfiodd berthynas â'r Arglwyddes Anthony, a byddai'r ddau yn aml yn ymarfer dramâu gyda'i gilydd yng nghartref yr arglwyddes. Byddai Girly yn aml yn gwisgo mewn dillad merched ac yn chwarae rhan y fenyw a byddai'r Arglwyddes Anthony yn cymryd rôl y dyn. Pan nad oedden nhw’n actio, byddai'n well gan yr arglwyddes gael ei galw yn ‘fachgen’ Girly.
Os oes yn well gennych chi ddysgu wrth symud, mae gennym ni yr union beth ichi. Mae podlediadau yn cynyddu mewn poblogrwydd ac mae llawer wedi'u cynhyrchu am hanes LGBT. Crëwyd podlediad gan Simon Brown sy'n ein cysylltu â'n treftadaeth LGBT. Mae Attitude Heroes hefyd yn neilltuo pennod i'w bodlediad sy’n cynnwys Mark Gatiss yn siarad am ei brofiadau personol a'r sîn LGBT yn y 70au. Mae Mark yn disgrifio bod yn hoyw yn y 70au fel 'dewis eich opsiynau TGAU yn yr ysgol; rydych chi yn y tywyllwch yn llwyr'. Mae Mark yn cydblethu hiwmor yn ei straeon, felly os ydych chi eisiau gwrando ar rywbeth ysgafn, mae'r podlediad hwn yn hanfodol.
Mae digwyddiadau ar gael i'r cyhoedd i wella eu gwybodaeth am hanes LGBT Cymru. Mae hyn yn cynnwys sgwrs yn y Senedd sy'n digwydd yn ystod mis Hanes LGBT, ac mae'r sgyrsiau hyn yn cynnwys straeon unigryw nad yw cymdeithasau yn gyffredinol yn cael eu dysgu amdanyn nhw, fel y swffragetiaid lesbiaidd a frwydrodd dros hawliau cyfartal yn ystod y chwedegau, a'r dyn rhyfeddol, Richard Desmond, a helpodd i frwydro yn erbyn deddfau llym ac anghyfiawn.
Bu’n frwydr hir dros hawliau cyfartal yng Nghymru sy'n dal i barhau hyd heddiw ond mae'n frwydr a fydd yn cael ei chofio am byth. Mae'r gymuned LGBT wedi paratoi’r ffordd ar gyfer byd cyfiawn ac ni fydd hyn fyth yn cael ei anghofio oherwydd y rhai sy'n cofio, yn dathlu ac yn rhannu eu straeon.
Comments