- Chloe Turner
Feel Good

“Mae ‘Feel Good’ yn cynnig mewnwelediad newydd”
“Mae’n rhoi’r profiad deurywiol o dan y microsgop”
Mae deurywioldeb ar y sgrin wedi bod yn destun beirniadaeth ers amser maith mewn sinema queer. O hen themâu am anffyddlondeb i linellau clo jôcs didaro, mae'r cymeriadau deurywiol yn bodoli fel rhywbeth anarferol ymhlith eu cyfoedion unrhywiol: ddim yn 'ddigon straight' i gyd-fynd â'r gymdeithas ehangach, ond ar yr un pryd ddim yn 'ddigon hoyw' i gael eu hystyried yn queer.
Rhyddhawyd ail gyfres a chyfres olaf ‘Feel Good’ Mae Martin yn ôl ym mis Mehefin; archwiliad byr ond dwfn o berthynas Martin ei hun â rhywedd, cyffuriau, a llywio drwy ddibyniaeth yn ei ffurfiau esblygol. Fodd bynnag, mae'r sioe yn derbyn llai o gymeradwyaeth am ei phortread trawiadol o'r profiad deurywiol penodol. Rydym yn dyst i'r limbo rhwng cymunedau, y broses unigryw o ddod allan, a phwysau a breintiau ymddangos fel person straight pan rydych yn queer.
Er gwaethaf y ffaith ei bod yn nodwedd annatod o hunanosodiad y comedïwr ei hunan, gellir gweld ymagwedd ‘Feel Good’ at ddeurywioldeb ar ei orau drwy gymeriad Charlotte Richie, 'George': cariad Mae sydd yn y closet a oedd, cyn eu perthynas, wedi cael perthnasoedd â dynion yn unig.
Mae safle George yn y sioe yn un unigryw, drwy roi'r profiad deurywiol o dan ficrosgop a'i osod mewn perthynas â'r cymunedau cyfunrywiol a heterorywiol sy'n ei amgylchynu. I'w ffrindiau heterorywiol, mae George yn hoyw: rhywun ar y tu allan sy’n destun clecs i'w lledaenu fel y pla ar ôl iddi ddod allan ar gam. Ond, yng ngolwg y gymuned queer a'r rhai o'i chwmpas - Lava a bortreadir gan Ritu Arya, a rhieni amheus Mae - nid yw’n llawer mwy na merch straight sy’n gwastraffu eu hamser.
Ym mhob trafodaeth am ei rhywioldeb, mae George wedi’i chyfyngu gan ddisgwyliadau'r rhai o'i chwmpas, yn cael ei chwestiynu oherwydd hanes ei phartneriaid, ac yn cael ei gorfodi i wynebu ei dewisiadau ei hunan cyn y gall fod yr hyn y mae'n dymuno bod mewn gwirionedd. A fyddai hi'n parhau i gael perthnasau gyda merched ar ôl Mae, neu ai perthynas unigryw yw hon? A yw hi'n cydfynd ag ystrydebau'r rheini o'i chwmpas, ac a oes angen label arni mewn gwirionedd i bennu pwy y mae hi'n cael perthynas â nhw?
Mewn hinsawdd lle rydym ni'n dechrau gweld cynrychiolaeth ddeurywiol fwy amrywiol ar y teledu - o Rosa Diaz i Darryl Whitefeather, ac o Eleanor Shellstrop i Clarke Griffin - mae'n dod yn annatod cydnabod rôl disgwyliadau allanol mewn llunio hunaniaeth. Mae deurywioldeb Martin ei hunan - gyda’u steil androgynaidd queer mwy confensiynol - yn aros heb ei gwestiynu drwy gydol y sioe. Ond i George, gyda’i gwallt hir ac sy’n edrych yn fenywaidd, mae ei gallu i ymddangos fel person straight (a gwrthodiad pobl eraill i’w gweld fel arall) yn ganolog i'w phrofiad o rywioldeb. Rydym yn cael ein hannog i sylwi ar yr angen am berfformiad gan ei bod yn bodoli rhwng grwpiau, a'r pwysau i gydymffurfio â disgwyliadau eraill o ran pwy yw hi neu pwy y dylai fod.
Mae ‘Feel Good’, ymhlith ei rinweddau niferus, yn cynnig mewnwelediad newydd ar y teledu am y profiad deurywiol a'r treialon a'r buddugoliaethau a ddaw yn ei sgil. Mae Mae Martin yn llunio archwiliad twymgalon o queerness sydd, rhwng ei eiliadau comig a'i fyfyrdodau mewnol, yn ein hatgoffa’n ddi-ildio ein bod ni i gyd, yn y pen draw, yn llawer mwy na sut y mae eraill yn ein dirnad.
Sue Vincent-Jones