top of page
  • Craig Stephenson

Coffáu, dathlu ac addysgu ar Ddiwrnod AIDS y Byd


Unwaith eto, ac yn dilyn adfywiad diweddar y digwyddiad hwn, bydd grwpiau cymunedol ac ymgyrchwyr yn cynnal digwyddiad coffa ac wylnos i nodi Diwrnod AIDS y Byd yng Nghaerdydd.


Bydd y digwyddiad, sydd wedi tyfu ers ei adfywiad yn ystod y pandemig, yn coffáu, dathlu ac addysgu. Coffáu'r rhai sydd wedi'u colli i HIV ac AIDS, dathlu'r rhai sy'n dal gyda ni diolch i driniaeth HIV, ac addysgu, - gan ein hatgoffa o'r datblygiadau meddygol a gwyddonol enfawr sydd wedi'u gwneud ers dechrau'r epidemig HIV/AIDS yn yr 1980au.

Canolbwynt y digwyddiad ingol hwn fydd y Goeden Bywyd, coeden a blannwyd ym 1994 yng Ngerddi’r Orsedd, Parc Cathays, er cof am bawb a gollodd eu bywydau i AIDS.

Dywedodd Rob Keetch, Cadeirydd y pwyllgor trefnu:

“Rydym wedi dod mor bell ers yr 80au o ran datblygiadau meddygol sy’n galluogi pobl sy’n byw gyda HIV i fyw bywydau llawn a chynhyrchiol. Os oes gan bobl lwythi firaol anghanfyddadwy, mae'n golygu nad oes modd trosglwyddo'r firws. Wrth i ni ddathlu hynny, ni allwn anghofio'r rhai yn ein cymuned a gollodd eu bywydau i'r firws.


“Dyma gyfle blynyddol i ddod ynghyd i goffau eu bywydau, i gofio’r cyfraniad a wnaethant i’n teuluoedd, grwpiau cyfeillgarwch, ein cymuned ac at ymchwil feddygol ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

“Rwy'n estyn 'diolch' enfawr i'r rhai sy'n parhau i weithio yn y sector gwirfoddol ac yn y gwasanaethau iechyd i ddatblygu gofal meddygol ac sy’n brwydro yn erbyn stigma. Mae eu gwaith yn amhrisiadwy.”

“Eleni, rydym hefyd am gydnabod y rhai sydd wedi datgan yn gyhoeddus eu bod yn HIV positif. Maent yn arloeswyr yn y frwydr i roi terfyn ar stigma a bydd cael modelau rôl yn barod i rannu eu straeon yn helpu i addysgu eraill. Dyna pam y bydd digwyddiad eleni a chyfraniadau pobl yn gwneud er mwyn Goffau, Dathlu ac Addysgu.”

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 5.45yh, gan ymgynnull yn Theatr Reardon Smith, Plas y Parc, Caerdydd. Bydd gwesteion yn cael eu croesawu gan Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey. Bydd siaradwyr o Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru a Fast Track Cities, dwy elusen sy’n gweithio’n ddiflino i helpu i leihau stigma HIV ac i helpu i brofi pobl, atal trosglwyddo a thrin y rhai sy’n byw gyda HIV. Bydd perfformiadau hefyd gan Gorws Dynion Hoyw De Cymru a’r canwr Gavin Sheppard.



Yna bydd gorymdaith yng ngolau llusern i’r Goeden Bywyd yng Ngerddi’r Orsedd, lle bydd mynychwyr yn hongian rhubanau coch, y symbol fyd-eang o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r rhai sy’n byw gyda HIV. Bydd y Parch Sarah Jones, Offeiriad-â-Gofal yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd, yn arwain eiliad o fyfyrio. Bydd cyfle hefyd i gofio’r rhai a gollwyd i AIDS a HIV drwy ysgrifennu eu henwau ar ddail papur a fydd hefyd yn cael eu hongian ar y goeden. Bydd diodydd poeth ar gael yng nghaban coffi Brodies yng Ngerddi’r Orsedd.

Mae croeso i unrhyw un ymuno â'r digwyddiad, gan ymgynnull yn Theatr Reardon Smith, Plas y Parc, Caerdydd am 5.45pm i ddechrau am 6pm. Cefnogir y digwyddiad yn garedig gan yr Undeb GMB, Glory Stores, a, Mary’s Caerdydd.


0 comments
bottom of page