top of page
  • Craig Stephenson

Barry Pride 2022

Updated: Mar 2, 2023



Ar ôl ychydig wythnosau’n unig ers y syniad i atgyfodi Barry Pride ers ei gyflwyno yn 2019, gwelwyd dychweliad balchder cymuedol mawr ar Hydref 1af – y tro hwn ar Ynys y Barri.

Ar ôl dechrau gwlyb yn y bore, roedd yr haul yn gwenu ac roedd pawb a fynychodd neu a gymerodd ran yn amlwg yn benderfynol o gael amser da mewn gwir ffasiwn falchder.

Dechreuodd dathliadau'r dydd gyda gorymdaith ar draws ffordd yr harbwr o Westy'r Ship iPpromenâd Bae Whitmore. Roedd yn ddathliad gwirioneddol o bopeth LHDTC+ gyda baneri’n chwifio, canu, llafarganu, chwibanau a wynebau’n gwenu. Pawb yno i ddathlu ein cymdeithas amrywiol a chynhwysol.


Roedd y digwyddiad yn cyd-daro â’r diwrnod cyntaf y caniatawyd cŵn yn ôl ar y traeth ym Mae Whitmore felly roedd yn wych gweld cymaint o gerddwyr cŵn yn dod i ymuno â’r dathliadau balchder hefyd.



Roedd digon i ddiddanu’r tyrfaoedd ar y llwyfan a cyflwynwyd gan Bro Radio gyda breninesau a brenhinoedd llusg gan gynnwys Camille Towe a Fanny DeFlapp, yn perfformio yn eu tref enedigol. Ymhlith y ffefrynnau lleol eraill roedd yr Ensemble Billboard, Cor Meibion Hoyw De Cymru, y Goodges, Holly Wilson a DJ Crypto.


Wedi'u lleoli'n ddiogel o dan y lloches ddwyreiniol ar y promenâd roedd llawer o stondinwyr. Syniad gwych i'w cartrefu yno i wrthweithio unrhyw gawodydd mis Hydref (nad oedd yn cyrraedd beth bynnag!).



Gyda phopeth wedi'i gynnwys mewn ardal eithaf cyfyngedig ar un ochr i'r promenâd, yn debyg iawn i'r Stryd Fawr yn 2019, fhwyluswyd yr ysbryd cymunedol gwych sy'n more amlwg fel rhan o’r digwyddiadau balchder cymunedol llai. Roedd pobl yn sgwrsio, gwneud ffrindiau, cael gwybodaeth gan stondinwyr neu brynu cacennau gan detholiad gwych o stondinau cacennau. Yn bersonol, roedd yn well gen i far Juniper Bay a gynhaliwyd gan yr hyfryd Craft Republic.


Mae'r pwyllgor trefnu yn haeddu llongyfarchiadau enfawr ac i bawb a ddaeth i ddathlu, mwynhau a gwneud y gorau o'r digwyddiad balchder awyr agored olaf yn 2022 yn ôl bob sôn.


Nid yw hi erioed wedi bod mor bwysig i sefyll fyny a dangos cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+ a'r pwysigrwydd o gymuned gynhwysol ac amrywiol. Roeddem ni fel LGBTQymru yn falch iawn o fod yma a gweld ysbryd aruthrol more amlwg ar Ynys y Barri.


Brafo i Barry Pride 2022, rydym eisoes yn edrych ymlaen at ddigwyddiad 2023.




0 comments
bottom of page