- Evie Barker
Adolygiad o’r Nofel Loveless
Mae llyfr Alice Oseman, Loveless, yn paratoi'r ffordd ar gyfer ffuglen gynhwysol. Mae’n mynd ymhell o'r gynrychiolaeth ymylol arferol, gan fod y nofel hon i oedolion ifanc yn rhoi’r awenau i brif gymeriad Anrhywiol Aromantig.
Mae Loveless yn llawn cynhesrwydd dod o hyd i'ch teulu Queer ac yn ein hannog i ehangu ein diffiniad o gyfeillion enaid i gynnwys cyfeillgarwch platonig, sy’n gallu, fel y dywed Oseman, 'bod yr un mor ddwys, hardd a diddiwedd â rhamant'. Fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, mae stereoteipiau ffug yn labelu bywydau anrhywiol fel rhai di-gariad. Rhaid inni wneud mwy i gynrychioli Anrhywioldeb yn gywir fel rhywbeth dilys a boddhaus, rhywbeth y mae Loveless yn ei gyflawni mewn ffordd bersonol ac ysgafn.

Mae'r nofel yn darlunio'n llwyddiannus sut y gall y Brifysgol fod yn lle diogel i ddarganfod a mynegi eich hunan. Mae hyn yn gwneud Loveless yn llyfr delfrydol i fyfyrwyr Queer sy'n methu eu cymuned amrywiol yn y Brifysgol yn ystod y cyfnod clo.
Mae nofel Oseman yn cyffwrdd ar y rhagdybiaeth negyddol bod arbrofi yn anghenrheidiol wrth ddarganfod rhywioldeb. Yn ystod y cyfnod pan fydd Georgia yn cwestiynu ei hunan, mae hi’n cusanu dau unigolyn fel arbrawf; maent yn cael eu gadael yn teimlo eu bod wedi cael eu defnyddio ac mae Georgia wedi ei ffieiddio. Gall y naratif hwn fod yn ddi-fudd i unigolion Ace sy'n teimlo dan bwysau i gymryd rhan mewn 'profiadau arbrofol fel myfyrwyr' sydd wedi’u normaleiddio sy'n mynd yn groes i'w dewisiadau. Diolch byth, mae Oseman yn cydnabod hyn; Mae ffrind Georgia yn sylweddoli - “You know when straight guys find out that a girl is gay and they’re all like ‘haha but you haven’t kissed me so how do you know you’re gay’. That’s basically what I did to you!!!”.
Mae Loveless yn llawn enghreifftiau o normaleiddio rhagenwau ac mae ganddi gast amrywiol. Ond, ar brydiau, mae’n gwyro i'r ystrydebol. Efallai y bydd y penderfyniad i wneud Georgia yn fyfyriwr mewnblyg sy’n astudio Saesneg sydd ag obsesiwn am fanfiction yn apelio at rai, ond efallai nid at eraill, ac mae cynnwys negeseuon testun, er eu bod yn gynrychioliadol o'n hoes ni, yn gallu teimlo’n ffug ar adegau. Ond gall unrhyw unigolyn sydd wedi cwestiynu ei rywioldeb gael hyd i gipolwg ohono ei hunain yn y nofel hon. Enghraifft ddigrif o hynny yw’r cwis nodweddiadol 'Am I Gay?' y bydd pobl Queer yr oes ddigidol yn ei adnabod yn dda.
Mae un o gymeriadau Oseman yn ein hatgoffa nad yw Anrhywioldeb yn ymddangos mewn ffilmiau. Go brin ei fod yn ymddangos mewn sioeau teledu, a phan y bydd, mae'n is-blot bach iawn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei anwybyddu. Pan fydd sôn amdano yn y cyfryngau, mae pobl yn trolio amdano’n ddiddiwedd. Mae rhai pobl queer hyd yn oed yn meddwl ei fod yn annaturiol neu'n ffug. Mae Loveless yn llyfr sydd yr un mor bwysig i bobl nad ydynt yn adnabod eu hunain fel unigolion Ace ag yw i’r gymuned Anrhywiol ac mae’n teimlo fel cam i'r cyfeiriad cywir ar gyfer cynwysoldeb unigolion LGBTQ+.
Mae Loveless argael drwy wefan ei chyhoeddwyr, HarperColins, neu ym mhob siop lyfrau dda.